Twas The Night Before Christmas
Rhaglen deledu animeiddio a gynhyrchwyd ym 1974 gan Rankin/Bass Animated Entertainment[1] yw 'Twas the Night Before Christmas. Mae'r rhaglen yn cynnwys cerdd 1823 enwog Clement Clarke Moore A Visit from St. Nicholas, gyda llinell gyntaf y gerdd hefyd yn deitl y rhaglen animeiddio arbennig hon.[2] Ymddangosodd y rhaglen ar CBS gyntaf ar 8 Rhagfyr 1974,[3] a phob blwyddyn wedi hynny ar y rhwydwaith nes 1994, pan gymerodd The Family Channel (bellach yn Freeform) reolaeth dros hawliau'r rhaglen. Cymerodd AMC reolaeth dros yr hawliau yn 2018.[4]
Twas The Night Before Christmas | |
---|---|
Llun agoriadol | |
Genre | Animeiddio |
Ysgrifennwyd gan | Jerome Coopersmith |
Cyfarwyddwyd gan | Arthur Rankin Jr. Jules Bass |
Yn serennu | Joel Grey George Gobel Tammy Grimes John McGiver |
Adroddwyd gan | George Gobel (prif stori) Joel Grey (cerdd) |
Cyfansoddwr thema | Maury Laws |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau Siapan |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr | Arthur Rankin Jr. Jules Bass |
Sinematograffi | Toru Hara Tsuguyuki Kubo |
Hyd y rhaglen | 25 munud |
Cwmni cynhyrchu | Rankin/Bass Productions Topcraft |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | CBS |
Darlledwyd yn wreiddiol | 8 Rhagfyr 1974 |
Er bod yr olygfa agoriadol yn nodi mai "Joel Grey sy'n adrodd ac yn canu," adroddir hi gan George Gobel yn wir, oherwydd bod mwy o bwyslais ar safbwynt Father Mouse, gyda cherdd Moore, a adroddir gan Grey, yn blot eilaidd.
Cyfarwyddwr
golyguGanwyd y cyfarwyddwr ffilm Arthur Rankin, Jr ar 19 Gorffennaf 1924 a bu farw yn Harrington Sound, Bermiwda. Mae'n un o'r cyfarwyddwyr ffilm mwyaf cynhyrchiol a welodd y byd erioed, ac mae ganddo 47 ffilm a ystyrir yn nodedig yn fyd-eang.
Cast
golygu- George Gobel fel Father Mouse
- Joel Grey fel Joshua Trundle
- Tammy Grimes fel Albert
- John McGiver fel Maer Junctionville
Lleisiau ychwanegol
golygu- Robert McFadden fel Gweithredwr yr Isbwerdy, Cynghorwyr, a'r Tasgmon
- Allen Swift fel Santa Claus
- Pat Bright fel Sarah Trundle/Mother Mouse
- Christine Winter fel Girl/Girl Mouse
- Scott Firestone fel Boy/Boy Mouse
- The Wee Winter Singers fel y Côr
Derbyniad
golyguRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Gweler hefyd
golyguCyhoeddodd Arthur Rankin, Jr. nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rankin/Bass' "'Twas the Night Before Christmas" on Records |". cartoonresearch.com. Cyrchwyd 2023-07-01.
- ↑ Crump, William D. (2019). Happy Holidays—Animated! A Worldwide Encyclopedia of Christmas, Hanukkah, Kwanzaa and New Year's Cartoons on Television and Film. Jefferson, North Carolina: McFarland & Company. t. 324. ISBN 9781476672939.
- ↑ DataBase, The Big Cartoon. "'Twas The Night Before Christmas (Rankin-Bass Productions)". Big Cartoon DataBase (BCDB) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-07-01.Nodyn:Cbignore
- ↑ "AMC PRESENTS ITS LARGEST SLATE OF HOLIDAY PROGRAMMING WITH "AMC BEST CHRISTMAS EVER"". 8 November 2018. Cyrchwyd 27 November 2018.
- ↑ 5.0 5.1 "'Twas the Shift Before Christmas". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 9 Hydref 2021.