Ffilm ddogfen 2015 yw Twinsters sy'n adrodd y stori go-iawn o ddwy chwaer unfath, wedi'u gwahanu ar enedigaeth, yn darganfod eu gilydd ar-lein, cyfarfod, a cadarnhau eu hunaniaeth gyda phrawf DNA ac yna'n archwilio agweddau o'u cefndir gyda'i gilydd.

Twinsters
Cyfarwyddwyd gan
  • Samantha Futerman
  • Ryan Miyamoto
SgriptSamantha Futerman
Yn serennu
  • Anaïs Bordier
  • Samantha Futerman
  • Kanoa Goo
Cerddoriaeth gan
  • Mark De Gli Antoni
  • Martin Molin
SinematograffiRyan Miyamoto
Golygwyd ganJeff Consiglio
Stiwdio
  • Small Package Films
  • Ignite Channel
Dosbarthwyd ganNetflix
Rhyddhawyd gan
  • 15 Mawrth 2015 (2015-03-15) (South by Southwest 2015)
Hyd y ffilm (amser)81 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg

Cefndir golygu

Myfyrwraig Ffrengig yw Anaïs Bordier sy'n astudio yn y DU. Mae'n eistedd ar fws yn Llundain pan mae ffrind yn anfon llun iddi wedi ei gymryd o fideo YouTube. Mae hi'n cael ei synnu gan debygrwydd pryd a gwedd y fenyw Americanaidd yn y fideo iddi hi ei hun, ond yn methu dod o hyd i fwy o wybodaeth. Rhai wythnosau'n ddiweddarach mae hi'n cael dolen i drelar y ffilm 21 & Over sy'n cynnwys yr un fenyw. Ar ôl ychydig o ymchwil mae'n darganfod mai ei doppelganger yw actores o'r enw Samantha Futerman. Fel Bordier cafodd Futerman ei geni yn Ne Corea a chafodd hi ei mabwysiadu fel babi. Mae Bordier hefyd yn synnu i ddarganfod eu bod nhw yn rhannu dyddiad geni, felly anfonodd hi neges Facebook at ei gefell posibl.

Plot golygu

Mae'r ffilm yn agor gyda Futerman yn egluro i'r gynulleidfa ei bod am rannu'r stori wallgof a ddigwyddodd iddi ychydig ddyddiau ynghynt. Mae'n cyflwyno ei theulu ac yn egluro ei bod yn derbyn cais ffrind ar Facebook gan ddieithryn, a phan mae hi'n edrych ar lun proffil y cyfrif mae hi'n gweld ei wyneb ei hun yn edrych yn ôl. Mae hi'n derbyn y cais ffrind ac yn cael neges gan Bordier sy'n lledawgrymu yn gryf y gallant fod yn efeilliaid a gofyn iddi am ragor o fanylion am ble cafodd ei geni. Mae'r ddwy wraig yn anfon negeseuon testun yn ôl ac ymlaen ac yn cytuno i siarad â'i gilydd ar Skype.

Mae Futerman yn mynd i weld yr arbenigwr gefeilliad Dr Nancy Segal ac mae'r ddwy ferch yn cymryd samplau DNA ar yr un pryd wrth ddefnyddio Skype. Mae taith i Lundain yn cael ei drefnu ac mae'r merched yn cyfarfod, gyda ffrindiau yn cynorthwyo. Y noson honno maen nhw'n siarad â Dr Segal dros Skype ac mae hi yn cadarnhau eu bod nhw'n efeilliaid unfath. Mae'r ffilm yn parhau i ddogfennu eu profiadau, gan gynnwys ymweliad Bordier i Futerman yng Nghaliffornia, a thaith wedi hynny i Seoul ar gyfer cynhadledd o blant mabwysiedig Corea. Drwy gydol yr amser, maen nhw wedi ceisio cysylltu a'u mam geni, sy'n gwadu cael gefeilliaid. Ar y diwedd, maen nhw'n cyfansoddi neges i'r wraig hon, i ddiolch iddi am roi bywyd iddyn nhw.

Dolenni allanol golygu