Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd

Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd (ATBF) yw haint bacteriol sy'n cael ei ledaenu gan frathiad torogen. Gall symptomau gynnwys twymyn, cur pen, poenau yn y cyhyrau, a brech. Fel arfer, ar safle'r brathiad ei hun, mae'r croen yn cochi'n sylweddol a cheir canolbwynt tywyll i'r rhan honno.[1] Mae symptomau fel arfer yn dod i'r amlwg 4-10 diwrnod wedi'r brathiad. Ni achosir cymhlethdodau’n aml, serch hynny, gall y pigiadau achosi i gymalau chwyddo. Nid yw rhai dioddefwyr yn datblygu symptomau o gwbl.[2]

Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathspotted fever, clefyd Edit this on Wikidata
Dull trosglwyddoAmblyomma hebraeum, amblyomma variegatum edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosir y clefyd gan y bacteriwm Rickettsia africae.[3] Lledaenir y bacteriwm gan drogod o'r math Amblyomma. Fel arfer, mae'r rhain yn ymgartrefu mewn glaswellt neu lwyn tal yn hytrach nag mewn dinasoedd. Mae'r symptomau fel arfer yn arwain at ddiagnosis.[4] Gellir cadarnhau'r cyflwr wrth ystyried diwylliant, PCR, neu imiwnofflworoleuedd.

Ni cheir pigiad i drin y cyflwr. Mae osgoi brathiad yn un o'r camau amddiffynnol gorau, a ellir gwneud hynny drwy orchuddio'r croen gyda DEET, neu ddefnyddio dillad trin trwdrin. Fodd bynnag, ni cheir llawer o dystiolaeth ynghylch triniaethau posib. Mae'r gwrthfiotig doxycycline yn ymddangos yn effeithiol. Gellir defnyddio cloramffenicol neu azithromycin hefyd. Fel arfer, y mae'r afiechyd yn cilio heb driniaeth o gwbl.

Lledaena'r afiechyd yn Affrica Is-Sahara, India'r Gorllewin, ac yn Ynysoedd y De.[5] Mae'n gymharol gyffredin ymhlith teithwyr i Affrica Is-Sahara. Caiff y rhan fwyaf o heintiau eu dal rhwng Tachwedd ac Ebrill. Gellir cael ffrwydrad o achosion yn ystod y cyfnod hwn. Yn ôl y sôn, disgrifiwyd y clefyd am y tro cyntaf ym 1911. Mae Twymyn Pigiad Torogen Affricanaidd yn dwymyn frych. Caiff ei gamgymryd yn aml fel twymyn Môr y Canoldir.

Cyfeiriadau golygu

  1. "African Tick-Bite Fever". wwwnc.cdc.gov (yn Saesneg). March 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 October 2017. Cyrchwyd 28 October 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Jeremy Farrar; Peter Hotez; Thomas Junghanss; Gagandeep Kang; David Lalloo; Nicholas J. White (2013). Manson's Tropical Diseases. Elsevier Health Sciences. t. 279. ISBN 9780702051029.
  3. Jensenius, M; Fournier, PE; Kelly, P; Myrvang, B; Raoult, D (September 2003). "African tick bite fever.". The Lancet. Infectious Diseases 3 (9): 557–64. doi:10.1016/s1473-3099(03)00739-4. PMID 12954562.
  4. Jensenius, Mogens; Fournier, Pierre-Edouard; Raoult, Didier (2004-11-15). "Rickettsioses and the international traveler". Clinical Infectious Diseases 39 (10): 1493–1499. doi:10.1086/425365. ISSN 1537-6591. PMID 15546086.
  5. "Imported Spotted Fevers". www.cdc.gov (yn Saesneg). April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 October 2017. Cyrchwyd 28 October 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)