Tystysgrif trawswisgwr

Roedd tystysgrif trawswisgwr yn nodyn meddyg a gyhoeddwyd gan lywodraethau'r Almaen Ymerodrol a Gweriniaeth Weimar - o dan gefnogaeth y rhywolegydd Magnus Hirschfeld - yn nodi fod rhywun yn drawswisgwr. Cyfeiriai trawswisgwr ar yr adeg honno at yr holl unigolion yr oedd eu hunaniaeth rhyw a'u dillad dewisol yn anghydnaws â'r hyn oedd yn gysylltiedig â'u rhyw ddynodedig, ac felly'n cynnwys trawswisgwyr a phobl drawsryweddol.[1]

Ffacsimili tystysgrif trawswisgwr a gyhoeddwyd ym 1928 yn Berlin.
Roedd Herbert W. (chwith) yn ffrind trawsryweddol i Magnus Hirschfeld, a bu’n byw am ddwy flynedd ym Merlin dan yr enw a ddewiswyd ganddo.

O 1908 hyd at y 1950au, rhoddodd heddlu'r Almaen "ddwsinau efallai" o docynnau o'r fath.[2] Fe'u rhoddwyd yn bennaf i drawswisgwyr dosbarth canol, heterorywiol, gwryw i fenyw er mwyn osgoi cysylltiadau â diwylliant hoyw a lesbiaidd yn Almaen Weimar. Dywedodd y dystysgrif fod yr unigolyn dan sylw yn cael gwisgo dillad a oedd yn cyfateb i'w hunaniaeth rhyw.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gershon, Livia (18 Tachwedd 2018). "Gender Identity in Weimar Germany". JSTOR Daily. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
  2. Frost, Natasha (2 November 2017). "The Early 20th-Century ID Cards That Kept Trans People Safe From Harassment". Atlas Obscura. Cyrchwyd 19 July 2019.