Uchel Ddugiaeth y Ffindir

Gwladwriaeth led-hunanlywodraethol oedd Uchel Ddugiaeth y Ffindir (Ffinneg: Suomen suuriruhtinaskunta) a fodolai dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia o 1809 i 1917.

Grand Duchy of Finland
Mathgwlad ar un adeg, uned weinyddol hanesyddol Edit this on Wikidata
PrifddinasHelsinki Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,943,400 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1809 Edit this on Wikidata
AnthemMaamme/Vårt land Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Swedeg, Ffinneg, Rwseg, Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
SirYmerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd Edit this on Wikidata
GwladYmerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Rwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd360,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64°N 26°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd y Ffindir Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadEglwys Uniongred Ffindir, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Ffindir Edit this on Wikidata
ArianSwedish riksdaler, Finnish markka Edit this on Wikidata

Sefydlwyd yr uchel ddugiaeth yn sgil Cytundeb Frederikshamn ar derfyniad Rhyfel y Ffindir (1808–09) a orfododd Teyrnas Sweden i ildio'r Ffindir i Rwsia. Er yr oedd mewn undeb real anffurfiol ag Ymerodraeth Rwsia, a'r Tsar yn dwyn teitl Uchel Ddug y Ffindir, cafodd gradd uchel o ymreolaeth, gan gynnwys cyfansoddiad, llywodraeth, ac arian cyfred ei hun.

Bu'r 19g yn oes euraid i'r Ffindir ar y cyfan, a chafwyd adfywiad diwylliannol a thwf economaidd sylweddol. Dyrchafwyd y Ffinneg yn iaith genedlaethol, a blodeuai llenyddiaeth, cerddoriaeth, a'r celfyddydau.[1]

Ym 1906 sefydlwyd senedd ddemocrataidd yr Eduskunta, a'r Ffindir oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i roi i ferched yr hawl i bleidleisio. Er gwaethaf y datblygiadau gwleidyddol hyn, daeth yr uchel ddugiaeth dan bwysau i integreiddio â'r ymerodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi ar Rwsia ym 1917.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jussi Kurunmäki ac Ilkka Liikanen, "The Formation of the Finnish Polity within the Russian Empire: Language, Representation, and the Construction of Popular Political Platforms, 1863-1906", Harvard Ukrainian Studies 35:1–4 (2017–18), tt. 399–416.