Uncle Joe's Mint Balls

Mae Uncle Joe’s Mint balls yn fath o felysion, cynhyrchir gan gwmni William Santus yn Wigan, Swydd Gaerhirfryn. Maent yn cynnwys siwgr, olew pupur-fintys a hufen tartar.

Cynnyrch ei wraig oeddynt yn wreiddiol, o 1898 ymlaen. Adeiladwyd ffatri yn Heol Dorning, Wigan ym 1919.[1] Roedd rhaid i weithwyr newydd yno’n nabod rhywun sy’n gweithio yno yn barod, ac roedd rhaid iddynt fod yn Fethodistiaid.[2] Cynhyrchwyd y ddau filiynfed ohonynt ar 16 Chwefror 2011. a chafodd ei arddangos yn Amgueddfa Bywyd Wigan am fis.[3]

Recordiwyd cân amdanynt gan Mike Harding ym 1975.[4][5][6] Chwareir recordiad o gân arall amdanynt cyn gemau Clwb rygbi Wigan Warriors i ddathlu cyn-chwaraewyr, megis Billy Boston, Brian McTigue ac Eric Ashton.

Cyfeiriadau golygu

  1. Arnot, Chris (1 Medi 1996). "Uncle Joe's mint balls are on a roll". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-07. Cyrchwyd 2019-12-14.
  2. Tudalen hanes ar wefan y cwmni
  3. "Having a ball: Joy at the sweet factory as TWO-BILLIONTH Uncle Joe's mint is made (but 'pride of Wigan' will never be eaten)". Chwefror 16, 2011.
  4. "Our Song – By Mike Harding | Uncle Joes".
  5. "Mrs 'Ardin's Kid – Mike Harding".
  6. "Mike Harding - My Brother Sylveste" – drwy www.45cat.com.

Dolen allanol golygu