Vates (band)

(Ailgyfeiriad o Vates!)

Mae Vates yn fand o ardal Ffestiniog yng Ngwynedd, yn chwarae mewn nifer o arddulliau, yn cynnwys Ska a Dub. Dewi Prysor yw prif leisydd y band, ac maent yn canu am nifer o faterion cyfoes, ac yn ogystal, materion hollol anghyfoes. Fe ffurfiwyd y band yn gynnar yn y mileniwm newydd, ac mae Iwan 'Oz' Jones yn brif gitarydd y band, gynt o Anweledig. Rhyddhawyd eu albwm cyntaf "Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o du Hwnt i'r Cyrtans" ar label Recordiau Bos ym Mis Mehefin 2007. Maent yn perfformio mewn nifer o wyliau lleol, megis Gŵyl Car Gwyllt, yn gymharol aml.

Vates
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Erthygl am fand o Gymru yw hon. Am yr offeiriad Celtaidd, gweler Vates.

Discograffi golygu

"Ymosodiad y Contiad y Môr Rheibus o du Hwnt i'r Cyrtans" Recordiau Bos, 2007

Dolenni allanol golygu