Venedocia, Ohio
Pentref yn Van Wert County, Ohio, Unol Daleithiau America, yw Venedocia. Fe'i lleolir ar briffordd daleithiol 116 yng ngogledd-orllewin Ohio, tua 10 milltir i'r de-ddwyrain o ddinas Van Wert, canolfan weinyddol y sir. Mae gan y pentref arwynebedd o tua 1/4 milltir sgwar a phoblogaeth o 160 (2000). 'Venedocia' yw'r ffurf Ladin ar yr enw Gwynedd ac mae'n adlewyrchu gwreiddiau Cymreig y pentref. Mae trigolion Venedocia yn hynod o falch o fod yn Americanwyr Cymreig.
Math | pentref Ohio |
---|---|
Poblogaeth | 140 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Van Wert County |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 0.13 mi² |
Cyfesurynnau | 40.7858°N 84.4567°W |
Daeth yr ymsefydlwyr cyntaf yno tua'r flwyddyn 1848 ac fe'i ymgorfforwyd fel pentref yn 1897. Ymfudwyr o Gymru, ac yn arbennig o Wynedd, oedd yr ymsefydlwyr cyntaf. Mae rhai o drigolion presennol y pentref yn dal i gofio'r adeg pan siaredid Cymraeg yn y pentref.
Eglwys Bresbyteraidd Salem oedd canolfan y gymdeithas, a godwyd dros gan mlynedd yn ôl. Sefydlwyd y gynulleidfa yn 1848. Hyd at 1895 cynhelid pob gwasanaeth yn y Gymraeg. Mae Venedocia yn dal i gynnal Cymanfa Ganu flynyddol yn y Gymraeg, traddodiad a sefydlwyd yn 1915.
Ffuglen
golygu- Bartie Jones, Call to Cambria. Nofel am fywyd yn y pentref yn y 1970au.