Volkswagen e-Golf
Car trydan sy'n seiliedig ar y Volkswagen Golf yw'r Volkswagen e-Golf ac a adnabyddir hefyd fel y Golf blue-e-motion concept. Gall gyrraedd 150 km ar un llenwad o'i fatri.[1] Fe'i profwyd yn gyntaf yn Wolfsburg, yn 2011, wedi i'r cwmni gynhyrchu 500 uned prawf.[2][3] Dechreuwyd ei gynhyrchu'n fasnachol yn Chwefror 2012, gyda'r cyntaf yn cael ei werthu yn Belmont, California.
Fersiwn 2017
golyguUwchraddiwyd yr e-Golf yn Chwefror 2017, gyda batri 35.8 kWh lithiwm-ion llawer cryfach, ac felly, gellid teithio'n ymhellach: rhwng 144 a 201 km, a 119 MPGe. Mae'r fersiwn yma o'r car hefyd yn gwefru yn gynt: gall y fersiynau SE a'r SEL gael ei gwefru mewn tua 6 awr ar 240v, gydag opsiwn 'gwefru cyflym' sy'n caniatau gwefru hyd at 80% o'r batri mewn awr.[4]
Gwerthiant
golyguErbyn 2015 roedd 11,214 uned wedi'u gwerthu a 4,589 uned yn UDA.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "VW provides update with a few more technical details on Golf blue-e-motion EV; market debut in 2014". Green Car Congress. 9 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 27 Mehefin 2011.
- ↑ Andrew Peterson (22 April 2010). "Volkswagen's First Electric Car Will Be Based on 2013 Golf". Automobiles Magazine. Cyrchwyd 26 April 2010.
- ↑ "Volkswagen announces electrification plan, 500 Golf EVs in 2011". AutoblogGreen. 1 Mawrth 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 26 April 2010.
- ↑ Carl Anthony (22 Chwefror 2017). "2017 VW e-Golf Improves Strongly Over 2016 Model". Automoblog.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-16. Cyrchwyd 2 Mawrth 2017.