Pentref Palesteinaidd wedi ei leoli 38.5 km i'r de o ddinas Haifa oedd Wadi Ara (Arabeg: وادي عارة). Caiff ei enw o ffrwd ar ei gyfyl, Wadi 'Ara. Roedd yn bentref gweddol fychan, gyda phoblogaeth o 230 (1945). Diboblogwyd y pentref 27 Chwefror 1948.[1]

Wadi Ara
Mathanheddiad dynol, depopulated Palestinian village, pentref, cyn anheddiad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHaifa Subdistrict Edit this on Wikidata
GwladPalesteina dan Fandad Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.5°N 35°E Edit this on Wikidata
Map
Hen dŷ Arabiadd yn Wadi Ara, sydd bellach wedi ei feddiannu gan Israeliaid ac yn rhan o gibwts

Rhyfel 1948 a'i adladd

golygu

Yn ystod Rhyfel 1948 amddiffynnwyd y pentref yn llwyddiannus gan luoedd Arabaidd, gan gynnwys lluoedd o Iraq. Trosglwyddwyd y tir a amddiffynnwyd gan luoedd Byddin Iraq ym Mhalesteina i Wlad Iorddonen. Ar arch Abdullah I, brenin Iorddonen ildiwyd y tir hwnnw i Wladwriaeth Israel Mai 3, 1949.

Yn 1992 fel hyn y dywedodd yr hanesydd Palesteinaidd Walid Khalidi am yr hyn sy'n weddill o'r pentref: "The site is occupied by Kibbutz Barqay. Only two village houses remain, both on the eastern edge of the site. One of them has arched windows and a spiral staircase leading up to a room on the roof. The second has a large entrance that is used today as a gate for the kibbutz's swimming pool." [2]

Flynyddoedd y rhyfel (1948-9) dioddefai'r trigolion Palesteinaidd brodorol drais o du llluoedd Israel. Datguddiwyd y wybodaeth a ganlyn i'r hanesydd o Israeliad Uri Milstein gan aelod o'r cibwts lleol, Be'eri, a oedd yn rhan o gatrawd Israelaidd fu ymladd yn yr ardal: "We were in Wadi 'Ara. We raided a nearby Palestinian post and brought a prisoner for interrogation. A soldier beheaded him and scalped his head by knife. He raised the head on a pole to strike fear among Palestinians. Nobody stopped him." [3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Morris, Benny. 2004. The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited. Cambridge University Press, ISBN 978-0-521-00967-6. tt. xviii, village # 146
  2. Khalidi, Walid (1992), All That Remains: The Palestinian Villages Occupied and Depopulated by Israel in 1948, Washington D.C.: Institute for Palestine Studies, ISBN 0-88728-224-5 p. 201-202
  3. The Palestinian Nabka: Register of Depopulated Localities in Palestine, Complied by Salman Abu Sitta The Palestinian Return Centre: London, September 2000, page 18