Wales, Efrog Newydd
Tref yn Swydd Erie, yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Wales. Roedd ganddi boblogaeth o 2,960 yn ôl cyfrifiad 2000. Cafodd ei henwi'n Wales gan y Cymry a ymsefydlodd yno ar ddechrau'r 19g.
Math | tref yn nhalaith Efrog Newydd, tref |
---|---|
Poblogaeth | 3,009 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Erie County |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 35.64 mi² |
Uwch y môr | 407 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 42.7294°N 78.5197°W |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Cyfrifir tref Wales yn lleol yn un o "Southtowns" Swydd Erie oherwydd ei lleoliad yn ne-ddwyrain y swydd honno. Mae hi'n gorwedd mewn ardal o goedwigoedd a ffrydiau.
Cyrhaeddodd yr ymsefydlwyr cyntaf yn 1806. Sefydlwyd tref Wales ganddynt yn 1818.
Lleoedd yn Wales
golyguMae Tref Wales yn cynnwys y dref ei hun a'r tir o gwmpas. Ymhlith y lleoedd a chymunedau yno ceir.
- Buffalo Creek - ffrwd sy'n llifo i'r gogledd ger Wales
- Colgrave - Ar Ffordd Centerline
- South Wales - Pentref bychan ar y ffin â thref Aurora yn ne-ddwyrain Wales
- Wales Center - Pentref bychan
- Wales Hollow