Wales, Massachusetts

Tref yn Hampden County, yn nhalaith Massachusetts, Unol Daleithiau America, yw Wales. Y boblogaeth yn ôl cyfrifiad 2000 yw 1,737. Mae gan y dref sawl adeilad hanesyddol yn yr arddull pensaernïol sy'n nodweddiadol o Massachusetts.

Wales
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,832 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMassachusetts House of Representatives' 1st Hampden district, Massachusetts Senate's Worcester, Hampden, Hampshire and Middlesex district, Massachusetts Senate's Worcester, Hampden, Hampshire, and Franklin district Edit this on Wikidata
SirHampden County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd16 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr289 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.0694°N 72.2228°W Edit this on Wikidata
Cod post01081 Edit this on Wikidata
Map
Llyfrgell Gyhoeddus hanesyddol tref Wales
Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).

Daeth yr ymsefydlwyr Ewropeaidd cyntaf i Wales yn 1726 a chafodd ei chorffori'n swyddogol ar 23 Awst 1775 fel South Brimfield ; newidiwyd yr enw i Wales ar 20 Chwefror 1828 ar ôl ei noddwr cyfoethog James Lawrence Wales.

Daearyddiaeth

golygu

Yn ôl gwybodaeth Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y dref arwynebedd o 41.3 km² (16.0 milltir²). Mae 40.8 km² (15.8 milltir²) ohoni yn dir a 0.5 km² (0.2 mi² ; 1.32%) yn ddŵr. Ffinir Wales i'r gorlewin gan Monson; i'r de gan Stafford (Connecticut) ac Union (Connecticut); i'r dwyrain gan Holland; ac i'r gogledd gan Brimfield.