Wales, Utah
Tref yn Sanpete County, Utah, Unol Daleithiau America yw Wales. Roedd y boblogaeth yn 219 yng nghyfrifiad 2000. Mae'r dref yn cael ei llywodraethu gan faer a sawl aelod o'r cyngor. Yn Rhagfyr 2024, nid oedd gan Wales siop, gorsaf betrol na goleuadau traffig. Mae ganddi barc, fodd bynnag a gorsaf dân, llyfrgell a mynwent.
Math | tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cymru |
Poblogaeth | 338 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sanpete County |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 1.028819 km², 0.800515 km² |
Uwch y môr | 1,715 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 39.4861°N 111.6361°W |
Cod post | 84667 |
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Tref fechan wledig yw Wales, yn llai na sawl pentref yng Nghymru, ond mae ganddi ei chyngor lleol ei hun gyda maer a chynghorwyr.
Cafodd tref lofaol fechan Wales ei henwi ar ôl gwlad y mewnfudwyr a anfonwyd yno gan Brigham Young ym 1854 i gloddio'r "garreg sy'n llosgi". Roedd Americanwr Brodorol o’r enw Tabison, Ute amlwg, wedi dangos darn bach o lo i Young, a oedd ar y pryd yn llywydd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf. Sylweddolodd Young mai glo ydoedd a gofynnodd a oedd aelodau ei eglwys yn gwybod sut i'w gloddio. Gwirfoddolodd rhai mewnfudwyr o Gymru, gan gynnwys John Evans Rees a'i gefnder John Price, oedd â phrofiad o gloddio am lo yng Nghymru, a chawsant eu hanfon i fryniau ochr y gorllewin i sefydlu pyllau glo.[1]
Enw gwreiddiol y gymuned oedd Coal Bed, ond fe'i newidiwyd i Wales yn 1857. Ar un adeg roedd yno orsaf rheilffordd, a oedd yn ganolfan hanfodol a phrysur yn y gwaith o gario glo. Gadawyd y pyllau glo a'r trenau pan ddarganfuwyd mwyngloddiau mwy cynhyrchiol yn Scofield. Mae llawer o'r trigolion presennol yn ddisgynyddion i'r glowyr gwreiddiol a cheir cyfenwau megis Jones a Williams.
Saif Wales ar ochr orllewinol Dyffryn Sanpete, wrth droed Mynyddoedd San Pitch.
Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y dref arwynebedd o 0.3 milltir sgwâr (0.8 km 2), a'r cyfan yn dir.[2][3]
Demograffeg
golyguYn y flwyddyn 2000, roedd yno 219 o bobl, 64 o dai, a 54 o deuluoedd yn byw yn y dref. Dwysedd y boblogaeth oedd 731.4 o bobl fesul milltir sgwâr (281.9/km2). Roedd 84 o unedau tai a dwysedd cyfartalog o 280.5 y filltir sgwâr (108.1/km2). Roedd 97.26% yn wyn, a 0.46% o Ynysoedd y Môr Tawel.[4]
Map
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Van Atta, Dale (22 Ionawr 1977). "You name it - there's a town for it". The Deseret News. tt. W6. Cyrchwyd 18 hydref 2015. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "2019 U.S. Gazetteer Files". United States Census Bureau. Cyrchwyd 7 Awst 2020.
- ↑ "US Board on Geographic Names". United States Geological Survey. 25 Hydref 2007. Cyrchwyd 31 Ionawr2008. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help); Check date values in:|access-date=
(help) - ↑ "U.S. Census website". United States Census Bureau. Cyrchwyd 31 Ionawr 2008.