Waliau'n Siarad

Rhaglen deledu ffeithiol ar S4C

Rhaglen deledu ffeithiol ar S4C yw Waliau'n Siarad. Mae pob pennod yn trafod hanes a phensaernïaeth un adeilad penodol drwy gyflwyno storïau am y bobol oedd yn byw neu weithio yno.

Waliau'n Siarad
Genre Ffeithiol
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Catrin M.S. Davies
Amser rhedeg tua 45 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 12 Ionawr 2020

Cyflwynwyr y gyfres yw Aled Hughes a Sara Huws. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Unigryw o Aberystwyth.[1]

Penodau golygu

Rhaglen Teitl Disgrifiad Darllediad cyntaf Nifer gwylwyr[2]
1 Ffermdy Mynachlog Fawr Stori hynod ffermdy Mynachlog Fawr yn Ystrad Fflur, Tregaron 12 Ionawr 2020 27,000
2 Coleg Harlech Stori y miliwnydd a sosialydd aeth ati i greu coleg unigryw 19 Ionawr 2020 llai na 16,000
3 Y Dolydd, Llanfyllin Straeon pobl fu'n byw a gweithio o fewn waliau hen wyrcws Llanfyllin 26 Ionawr 2020 llai na 13,000
4 Castell y Strade, Llanelli Cyfle i grwydro coridorau crand Castell y Strade, Llanelli: sut daeth cyfreithiwr cyffredin o Sir Gâr i etifeddu'r plasdy? 2 Chwefror 2020 llai na 16,000
5 Y Royal Welsh Warehouse Hanes warws mawr yn y Drenewydd - cartre Cwmni Pryce Jones, a oedd y 1af o bosib i greu catalog siopa 9 Chwefror 2020 17,000
6 Redhouse Cymru O ganolfan ddinesig i garchar a chlwb nos, Aled Hughes a Sara Huws sy'n datgelu haenau hanes hen neuadd y dre Merthyr, sef Redhouse Cymru 16 Chwefror 2020 llai na 16,000

Cyfeiriadau golygu

  1. Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru , Pembrokeshire Herald, 9 Ionawr 2020.
  2. Ffigyrau Gwylio S4C

Dolenni allanol golygu