Wellington, Swydd Amwythig

Tref yn Swydd Amwythig, Lloegr
(Ailgyfeiriad oddi wrth Wellington (Swydd Amwythig))

Rhan o dref newydd Telford yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Wellington. Fe'i lleolir yn Swydd Amwythig fel rhan o fwrdeistref Telford a Wrekin. Mae'r dref yn dyddio i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ond, gyda datblygaid tref newydd Telford yn y 1960au a'r 1970au, daeth yn rhan o'r dref newydd honno. Mae'r dref wedi cadw ei hen gyfaredd ei hun gyda gorsaf trenau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a llyfrgell Edwardaidd. Cafodd siarter fel tref farchnad ym 1244. Mae'r farchnad leol yno o hyd, yn agos i sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae gan y dref orsafoedd trenau a bysiau, ac mae traffordd yr M54 yn gyfagos. Poblogaeth Wellington yw 20,430 (Cyfrifiad 2001).

Wellington, Swydd Amwythig
WellingtonShropshire2.JPG
Math tref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Telford a Wrekin
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
Sir Telford a Wrekin, Wellington Rural District Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 52.7001°N 2.5157°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04000947 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ651115 Edit this on Wikidata
Cod post TF1 Edit this on Wikidata


Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato