Wendy Albiston
actores a aned yn 1969
Actores o Gymru yw Wendy Albiston (ganwyd 13 Ionawr, 1969).
Wendy Albiston | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1969 Pontypridd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Yn 2002, chwaraeodd ran De Chevreuse yn The Church and The Crown, drama sain am Ddoctor Who a bu'n actio yn The TAO Connection, sef rhaglen yn y gyfres The Sarah Jane Adventures.
Mae'n debyg ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Guard Miller yn y ffilm Prydeinig-Indiaidd Provoked (2006) ac fel Martha yn addasiad 2008 o Sense and Sensibility. Yn fwy diweddar mae hi wedi chwarae Baines y chauffeur yng nghyfres y BBC The Turn of the Screw (2009). Roedd gan Albiston rolau bach yn y ffilm Bollywood Jhootha Hi Sahi a gyfarwyddwyd gan Abbas Tyrewala ac yn Five Daughters drama ffeithiol gan y BBC yn adrodd hanes pum ferch ifanc a gafodd eu llofruddio yn Ipswich yn 2006.