West Bromwich Albion F.C.
Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw West Bromwich Albion Football Club ac maenr yn cystadlu yn ail haen Lloegr, yr EFL Championship. Lleolir y clwb yn West Bromwich, yng nghanolbarth Lloegr. Caiff y clwb ei adnabod fel West Brom, Y Baggies, Albion, Yr Albion, Y Throstles neu'r WBA. Ffurfiwyd y clwb ym 1878 gan weithwyr o Weithfeydd Spring Salter yng Ngorllewin Bromwich ac maent wedi chwarae eu gemau cartref yn yr Hawthorns ers 1900.
Enw llawn |
West Bromwich Albion Football Club (Clwb Pêl-droed West Bromwich Albion). |
---|---|
Llysenw(au) |
Albion The Baggies The Throstles West Brom |
Sefydlwyd | 1878 (fel West Bromwich Strollers) |
Maes | The Hawthorns |
Cadeirydd | Shilen Patel |
Rheolwr | Carlos Corberán |
Gwefan | [wba.co.uk Gwefan y clwb] |
West Bromwich Albion oedd un o sefydlwyr y Gynghrair Bêl-droed yn 1888 ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bodolaeth yn adran uchaf pêl-droed Lloegr. Maent wedi bod yn bencampwyr Lloegr unwaith, yn 1919-20, ond maent wedi cael mwy o lwyddiant yng Nghwpan yr FA, yn ei hennill pum gwaith. Dyma nhw hefyd yn ennill Cwpan y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf yn 1966. Tymor 2011-12 fydd eu chweched tymor yn yr Uwch Gynghrair ers 2002.
Mae cystadlu brwd rhwng Albion a nifer o glybiau eraill o ganolbarth Lloegr. Eu gwrthwynebwyr traddodiadol yw Aston Villa, ond yn fwy diweddar mae eu prif ymryson wedi bod gyda Wolverhampton Wanderers - eu prif wrthwynebwyr yn gêm darbi yn Black Country.
Hanes
golyguCafodd y clwb ei sefydlu fel West Bromwich Strollers ym 1878 gan weithwyr o George Salter's Spring Works yng Ngorllewin Bromwich, ar y pryd yn Sir Stafford, ond sydd bellach yn rhan o sir weinyddol Orllewin Canolbarth Lloegr. Cawsant eu hailenwi'n West Bromwich Albion ym 1880, y tîm cyntaf i fabwysiadu'r dodiad Albion. Roedd Albion yn ardal o West Bromwich lle oedd rhai o'r chwaraewyr yn byw neu'n gweithio, yn agos at yr hyn sydd heddiw yn Greets Green.