West Bromwich Albion F.C.
Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw West Bromwich Albion Football Club ac maenr yn cystadlu yn ail cynghrair Lloegr, yr EFL Championship. Lleolir y clwb yn West Bromwich, yng nghanolbarth Lloegr. Caiff y clwb ei adnabod fel West Brom, Y Baggies, Albion, Yr Albion, Y Throstles neu'r WBA. Ffurfiwyd y clwb ym 1878 gan weithwyr o Weithfeydd Spring Salter yng Ngorllewin Bromwich ac maent wedi chwarae eu gemau cartref yn yr Hawthorns ers 1900.
![]() | |
Enw llawn |
West Bromwich Albion Football Club (Clwb Pêl-droed West Bromwich Albion). |
---|---|
Llysenw(au) |
Albion The Baggies The Throstles West Brom |
Sefydlwyd | 1878 (fel West Bromwich Strollers) |
Maes | The Hawthorns |
Cadeirydd |
![]() |
Rheolwr |
![]() |
Cynghrair | Ail gynghrair Lloegr |
Gwefan | [wba.co.uk Gwefan y clwb] |
West Bromwich Albion oedd un o sefydlwyr y Gynghrair Bêl-droed yn 1888 ac wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bodolaeth yn adran uchaf pêl-droed Lloegr. Maent wedi bod yn bencampwyr Lloegr unwaith, yn 1919-20, ond maent wedi cael mwy o lwyddiant yng Nghwpan yr FA, yn ei hennill pum gwaith. Dyma nhw hefyd yn ennill Cwpan y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf yn 1966. Tymor 2011-12 fydd eu chweched tymor yn yr Uwch Gynghrair ers 2002.
Mae cystadlu brwd rhwng Albion a nifer o glybiau eraill o ganolbarth Lloegr. Eu gwrthwynebwyr traddodiadol yw Aston Villa, ond yn fwy diweddar mae eu prif ymryson wedi bod gyda Wolverhampton Wanderers - eu prif wrthwynebwyr yn gêm darbi yn Black Country.
Hanes golygu
Cafodd y clwb ei sefydlu fel West Bromwich Strollers ym 1878 gan weithwyr o George Salter's Spring Works yng Ngorllewin Bromwich, ar y pryd yn Sir Stafford, ond sydd bellach yn rhan o sir weinyddol Orllewin Canolbarth Lloegr. Cawsant eu hailenwi'n West Bromwich Albion ym 1880, y tîm cyntaf i fabwysiadu'r dodiad Albion. Roedd Albion yn ardal o West Bromwich lle oedd rhai o'r chwaraewyr yn byw neu'n gweithio, yn agos at yr hyn sydd heddiw yn Greets Green.
Carfan Presennol golygu
Fel 2 Awst 2022
- 2 Darnell Furlong
- 3 Conor Townsend
- 4 Dara O'Shea
- 5 Kyle Bartley
- 6 Semi Ajayi
- 7 Callum Robinson
- 8 Jake Livermore (Capten)
- 9 Kenneth Zohorè
- 10 Matt Phillips
- 11 Grady Diangana
- 12 Daryl Dike
- 14 Jayson Molumby
- 18 Karlan Grant
- 20 Adam Reach
- 21 Cedric Kipre (ar fenthyg gyda Caerdydd)
- 22 Kean Bryan
- 25 David Button
- 27 Alex Mowatt
- 28 Rayhaan Tulloch
- 29 Taylor Gardner-Hickman
- 30 Alex Palmer
- 32 Quevin Castro
- 33 Caleb Taylor
- 35 Zac Ashworth
- 38 Josh Griffiths
- N/A Okay Yokuslu
- N/A Jed Wallace
- N/A John Swift