Whakatāne

(Ailgyfeiriad o Whakatane)

Lleolir Whakatane ar aber Afon Whakatane, ym Mae Digonedd, rhan o'r Môr Tawel. Poblogaeth y dref yw tua 33,300.[1] Mae coedwigoedd brodorol a Thraeth Ohope yn agos, ac mae sguba-blymio a physgota'n boblogaidd. Mae dolffiniaid a morloi'n mynychu'r bae ac mae teithiau tywys i Ynys Whakaari, llosgfynydd fyw, yn y bae. Gwelir ciwi yn y coedwigoedd brodorol.[2]

Whakatane
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,850 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWhakatāne District Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Arwynebedd4,441 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38°S 177°E Edit this on Wikidata
Cod post3120 Edit this on Wikidata
Map
Machlud haul ar Afon Whakatane
Cerflun Wairaka

Cyrhaeddodd y Maori tua 1200 o.c. Dywedir bod enw y dref yn tarddio o ddigwyddiad ar ôl cyrhaeddiad y llwyth Mataatua waka tua 1400 o.c. Roedd y dynion wedi gadael eu canŵ a drifftiodd y cwch i ffwrdd. Dywedodd Wairaka, (merch Toroa, arweinydd y llwyth Ngati Awa) “Kia Whakatane au i ahau” - gwnaf ymddwyn fel dyn – a dechreuodd ar rwyfo er na chaniatawyd y fath beth. Achubwyd y canŵ. Mae cerflun ar ben craig yn Afon Whakatane yn dathlu'r digwyddiad.[3]

Agorwyd canolfan Te Koputu a te whanga a Toi, sydd yn cynnwys amgueddfa, llyfrgell, ystafelloedd cyfarfod a 3 oriel, ym Mehefin 2012.[4]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu