What Ever Happened to Baby Jane? (ffilm)

ffilm ddrama llawn cyffro seicolegol gan Robert Aldrich a gyhoeddwyd yn 1962

Ffilm gyffro seicolegol Americanaidd o 1962, a gynhyrchwyd ac a gyfarwyddwyd gan Robert Aldrich yw What Ever Happened to Baby Jane?[1]. Mae'n serennu Bette Davis a Joan Crawford. Seiliwyd y sgript gan Lukas Heller ar y nofel o'r un enw gan Henry Farrell. Yn 2003, rhestrwyd cymeriad Baby Jane Hudson yn rhif 44 allan o 50 o Ddihirod Gorau Sinema Americanaidd.

What Ever Happened to Baby Jane?
Cyfarwyddwr Robert Aldrich
Cynhyrchydd Robert Aldrich
Ysgrifennwr Sgript: Lukas Heller
Nofel wreiddiol: Henry Farrell
Serennu Bette Davis
Joan Crawford
Cerddoriaeth Frank DeVol
Sinematograffeg Ernest Haller
Golygydd Michael Luciano
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Seven Arts Productions
Dosbarthydd Warner Bros. Pictures
Dyddiad rhyddhau 31 Hydref, 1962
Amser rhedeg 133 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Cyllideb $980,000
Refeniw gros $9,000,000

Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi, gan ennill un am y gwisgoedd gorau.

Cast golygu

Cyfeiriadau golygu