Wicipedia:Ar y dydd hwn/1 Tachwedd
1 Tachwedd: Gŵyl mabsant Cadfan a Sant Dona; Diwrnod y Meirw yn cychwyn ym Mecsico
- 1455 – priodwyd Edmwnd Tudur, Iarll Richmond a'r Arglwyddes Margaret Beaufort, rhieni Harri Tudur, brenin Lloegr
- 1536 – daeth Deddf Uno 1536 i rym
- 1895 – ganwyd y bardd a'r arlunydd David Jones
- 1948 – agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan i'r cyhoedd
- 1982 – S4C yn dechrau darlledu
|