Wicipedia:Ar y dydd hwn/21 Mehefin
- Diwrnod Cerddoriaeth y Byd
- 1377 – bu farw Edward III, brenin Lloegr
- 1652 – bu farw y pensaer Inigo Jones
- 1792 – Eisteddfod Bryn y Briallu, Llundain: ymddangosiad cyntaf Gorsedd y Beirdd
- 1840 – ganwyd John Rhŷs, un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau Cymraeg Canol gorau ei ddydd, ym Mhonterwyd, Ceredigion
- 1877 – ganwyd y nofelydd Moelona yn Rhydlewis, Ceredigion; awdur Teulu Bach Nantoer.
|