Wicipedia:Cyfarwyddiadau ynglŷn â materion cyfoes

Mae'r cyfarwyddiadau golygu yma'n berthnasol i'r erthygl ar faterion cyfoes.

Sylwch, os gwelwch yn dda nad gwasanaeth newyddion yw hwn.

Dyna yw swydd Wikinews (Saesneg). Ni ddylem fod yn ysgrifennu erthyglau am newyddion sy'n torri yma, oni bai ein bod yn sicr fod yr hyn a ysgrifennwn yn hollol gywir, ac yn oesol, fel yn achos Ymosodiadau 11 Medi, sydd yn erthygl nodweddiadol o wyddoniadur.

Am y newyddion diweddaraf yn y Gymraeg, ewch i wefan Golwg360 neu wefan BBC Newyddion.

I roi erthygl yn y categori hwn, rhowch y nodyn {{cyfoes}} ar waelod yr erthygl. Bydd yr erthygl yn ymddangos yma'n syth.

Mae llawer o bobl yn defnyddio peiriannau chwilio megis Google a Yahoo i ddod o hyd i wybodaeth ar faterion cyfoes. Yma ar Wicipedia, rydym wedi creu porth ar gyfer materion sy'n berthnasol ar hyn o bryd. Mae'r categori hwn yn caniatáu defnyddwyr i ddefyddio'r wybodaeth ddiweddaraf un. Er mwyn ein galluogi i gadw'r categori hwn yn drefnus, yn berthnasol ac yn gywir, mae'n bwysig eich bod yn dileu'r erthyglau sydd ddim bellach yn faterion cyfoes.

Diolch... a - phob hwyl.