Wicipedia:Cyfrannu at Wicipedia

text

Crëwch gyfrif golygu

Nid oes angen mewngofnodi arnoch i ddarllen Wicipedia. Nid oes angen mewngofnodi arnoch i olygu erthyglau ar Wicipedia hyd yn oed. Gall bron pawb olygu bron pob erthygl ar unrhyw adeg, heb orfod mewngofnodi hyd yn oed. Fodd bynnag, mae creu cyfrif yn broses gyflym. Mae hefyd yn rhad ac am ddim, a cheir nifer o fanteision, fel y'u rhestrir yn Wicipedia:Pam ddylwn i greu cyfrif?.

Beth allwch chi wneud golygu

Erthyglau golygu

Ystyriwch ddefnyddio Dewin i'ch helpu creu erthyglau. Gweler y Dewin Erthyglau.
—Diolch

Mae bob erthygl ar un pwnc (yn hytrach na gair), a dyma yw'r rhan fwyaf o gynnwys Wicipedia. Nod pob erthygl yw darparu darllenwyr â gwybodaeth. Mae rhai o erthyglau yn cyrraedd statws erthygl ddethol, lle mae'r cynnwys yn ffeithiol, yn wiriadwy, ac wedi cael ei hysgrifennu mewn Cymraeg da. Rhestrir erthyglau pwysicaf Wicipedia yn Wicipedia:Rhestr erthyglau sy'n angenrheidiol ym mhob iaith. Ar y dudalen honno, ceir sawl categori. Dewiswch gategori yr ydych yn gwybod rhywbeth amdano, neu gategori sydd o ddiddordeb i chi. Dewiswch erthygl a cheisio sicrhau bod yr erthygl yn ateb gofynion meini prawf erthygl ddethol, ac yna gwnewch yr erthygl yn ymgeisydd am erthygl ddethol. Ffordd arall y gallwch fod o gymorth yw trwy greu erthyglau a geisir yn Wicipedia:Erthyglau a geisir.

Rhestrau golygu

Mae rhestrau'n allweddol er mwyn gosod trefn ar gynnwys Wicipedia. Er mwyn helpu gwella rhestrau Wicipedia, dewch yn gyntaf o hyd i restr sydd o ddiddordeb i chi yn Wicipedia:Porth y Gymuned:Cynnwys/Rhestrau pynciau ac yna gallwch ei helpu i gyfateb â meini prawf rhestrau dethol. Hefyd gallwch greu rhestrau angenrheidiol drwy fynd i Wicipedia:Rhestrau a geisir.

Lluniau golygu

Mae lluniau yn rhan bwysig arall o Wicipedia. Er mwyn helpu gyda lluniau, gallwch fynd i Wicipedia:Lluniau a geisir i weld os gallwch gwblhau rhai o'r ceisiadau. Os ydych yn medru, ceisiwch ateb gofynion y meini prawf lluniau dethol. Nid oes modd cynnwys pob llun ar Wicipedia, gan mai dan hawlfraint mae rhai o luniau. Er mwyn ichi fedru uwchlwytho lluniau heb dorri hawlfraint, y mae'n rhaid ichi ddarparu, ynghyd â'r llun dan ddewis, disgrifiad, ffynhonnell, awdur, dyddiad, a chaniatâd. Yr elfen bwysicaf oll ydyw'r caniatâd. Os na ddarperir y wybodaeth hon, dilëir cynnwys cyn fuan ag y bo modd. Darllenwch Arbennig:Upload am ragor o wybodaeth angenrheidiol.

Seiniau golygu

Yn aml, anghofir seiniau wrth i gyfranwyr gyfrannu at erthyglau Wicipedia. Er mwyn helpu gyda seiniau, gallwch fynd i Wicipedia:Recordiadau a geisir i weld os gallwch gwblhau rhai o'r ceisiadau. Os ydych yn medru, ceisiwch ateb gofynion y meini prawf seiniau dethol.

Pyrth golygu

Mae'r pyrth yn cynorthwyo defnyddwyr Wicipedia i ddod ynghyd â'i gilydd i drafod pwnc penodol er mwyn iddynt allu dod o hyd i wybodaeth yn haws. Er mwyn helpu pyrth Wicipedia, yn gyntaf ewch i Wicipedia:Porth y Gymuned:Cynnwys/Pyrth a dewch o hyd i borth sydd o ddiddordeb i chi. Yna edrychwch i weld os gallwch chi ei wella er mwyn ateb meini prawf porth ddethol.

Pynciau golygu

Casgliad o erthyglau rhyng-berthynol sy'n gyflawn ac o safon uchel ydy pynciau. Gyda pheth gwaith caled ac ymroddiad, gallwch chi helpu er mwyn creu pwnc dethol arall ar Wicipedia. Er mwyn gweld y meini prawf sydd angen cyfateb â hwy er mwyn ateb gofynion pwnc dethol, gweler Wicipedia:Meini prawf pwnc dethol.

Gweler hefyd golygu