Wicipedia:Geiriau hud

Mae geiriau hud ar feddalwedd Mediawiki yn cael eu defnyddio i roi gorchmynion y mae’r meddalwedd yn eu deall a’u perfformio. Dyma’r mathau o eiriau hud:

Llythrennau bras a dau tanlinell bob pen iddo, e.e. __DIMRHG__

  • gwrthrych XML, sef côd tebyg i HTML, mewn cromfachau <>cyn rhyw destun a </> ar ôl y testun, e.e. <nowiki>...</nowiki>
  • gramadegydd, sydd yn debyg i nodyn, ar ffurf gair rhwng cromfachau "{{" ... "}}". Weithiau ceir ynddo hefyd paramedrau ar ôl y colon ":" sy’n dilyn prif air y gramadegydd, a’r paramedrau wedi eu gwahanu â nod, e.e. {{ns:3}} a {{#ifexpr:{{{1}}}>3|large|small}}
  • newidyn, sydd eto’n debyg i nodyn heb baramedrau, ar ffurf gair mewn llythrennau bras rhwng cromfachau "{{"..."}}", e.e. {{DYDDCYFREDOL}}
  • goleddfiad nodyn
  • goleddfiad delwedd

Cafodd y geiriau hud eu creu yn Saesneg ac fe allwch eu defnyddio yn Saesneg ar bob wici. Mae nifer ohonynt wedi eu cyfieithu i’r Gymraeg ac fe allwch ddefnyddio’r fersiynau Cymraeg ar y wicïau hynny sydd â Chymraeg yn brif iaith arnynt megis Wicipedia.

Dyma restr o’r geiriau hud.

Geiriau hud rhwng tanlinellau

golygu

Y daflen gynnwys

golygu

Y gystrawen wici diofyn yw bod taflen gynnwys yn ymddangos ar dudalen pan fod pedwar neu ragor o benawdau ar y dudalen. Fe ymddengys uwchben y pennawd cyntaf. Mae modd newid y gystrawen wici diofyn trwy ddefnyddio geiriau hud fel a ganlyn:

Y gair a’r amrywiadau arno Eglurhad
__NOTOC__

__DIMRHG__
__DIMRHESTRGYNNWYS__
__DIMTAFLENCYNNWYS__

Yn cuddio’r daflen gynnwys ar y dudalen.
__FORCETOC__ Yn gorfodi’r rhestr gynnwys i ymddangos ar y dudalen.
__TOC__ Yn gosod taflen gynnwys yn y man lle mae’r gair hud (mae’n gwrthwneud unrhyw __DIMRHG__ ar y dudalen). Os oes rhagor nag un o’r rhain ar dudalen ymddengys y daflen gynnwys dim ond lle mae’r gair hud wedi ei osod uchaf.
Y gair a’r amrywiadau arno Eglurhad
__NOEDITSECTION__

__DIMGOLYGUADRAN__
__DIMADRANGOLYGU__

Yn cuddio’r cyswllt golygu wrth ymyl penawdau adrannau. Hefyd yn analluogi’r gallu i olygu un adran ar y tro pan fyddwch yn gwneud clic dwbl neu de-glicio ar bennawd (os ydych wedi dewis gallu gwneud hyn yn eich dewisiadau)
__NEWSECTIONLINK__

__CYSWLLTADRANNEWYDD__

[MW1.7+] Mae hwn yn gosod cyswllt "+" wrth ymyl y tab golygu er mwyn gallu ychwanegu adran newydd i dudalen. Dim ond ar y tudalennau sgwrs y cewch chi hwn yn ddiofyn.
__NOGALLERY__ [MW1.7+] Pan osodir hwn ar dudalen categori sy’n cynnwys ffeiliau cyfrwng mae teitlau’r ffeiliau yn unig yn cael eu rhestri, yn hytrach na bod y delweddau’n ymddangos mewn galeri.
__END__ Yn caniatáu i wagle gwyn gael ei osod ar ddiwedd tudalen wrth ei rhoi ar gadw. Tynnwyd y gallu hwn yn niwygiad 19213 y meddalwedd.
__HIDDENCAT__

__CATCUDD__

[MW1.13+] Pan osodir hwn ar dudalen gategori nid yw’r categori yn ymddangos yn y blwch categorïau ar waelod pob tudalen sy’n aelod o’r categori.


Gramadegyddion

golygu

PLURAL

golygu

Yn gyffredinol mae’r gair hud PLURAL yn galluogi’r meddalwedd i ddewis allbwn sy’n dibynnu ar rif mewnbwn {{plural:rhif |ffurf1 |ffurf2 |ffurf2'’ }}

Mae’r gramadegydd hwn yn gallu bod yn wahanol ar bob safle wici, yn ôl prif iaith y safle. Gofynion gramadegol ffurfio lluosog yr iaith sydd yn gosod patrwm y gramadegydd. Yn Saesneg ceir dau ffurf, ar gyfer y rhif 1 ac ar gyfer pob rhif arall. Yn y rhyngwyneb Gymraeg ceir 6 ffurf, er mwyn gallu ffurfio’r treiglad cywir, er mwyn gallu dewis defnyddio ffurf unigol neu luosog y gwrthrych ac er mwyn gallu negyddu’r frawddeg ar gyfer y rhif 0. Isod mae tabl sy’n rhestri’r gwahanol rifau ac yn rhoi’r allbwn ar gyfer y frawddeg a ganlyn:

{{PLURAL: $1|Ddim yn gwylio unrhyw dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 tudalen|Yn gwylio $1 thudalen|Yn gwylio $1 o dudalennau}} heb gynnwys tudalennau sgwrs.

Rhif Enghraifft o’r allbwn
0 Ddim yn gwylio unrhyw dudalen heb gynnwys tudalennau sgwrs.
1 Yn gwylio 1 dudalen heb gynnwys tudalennau sgwrs.
2 Yn gwylio 2 dudalen heb gynnwys tudalennau sgwrs.
3 Yn gwylio 3 tudalen heb gynnwys tudalennau sgwrs.
6 Yn gwylio 6 thudalen heb gynnwys tudalennau sgwrs.
4,5, >=7 Yn gwylio ‘’nifer’’ o dudalennau heb gynnwys tudalennau sgwrs.


Gallwch ddefnyddio LLUOSOG yn lle PLURAL i wneud y gwaith hwn, ond noder mai dim ond ar wiciau lle mae Cymraeg yn iaith diofyn y safle y deallir y gystrawen LLUOSOG.

Newidynnau

golygu

Ystadegau

golygu

Mae newidynnau ystadegol yn cael eu harddangos gyda coma bob yn fil heblaw bod ":R" yn cael ei ychwanegu (mewn gwirionedd gramadegyddion yw’r fersiynau â’r paramedr ":R" yn hytrach na newidynnau).

Gair Esiampl Eglurhad
{{CURRENTVERSION}}
{{GOLYGIADCYFREDOL}}
1.44.0-wmf.8 (f08e6b3) [MW1.7+] gweler mediawiki [1]
{{NUMBEROFEDITS}}
{{NUMBEROFEDITS:R}}
13,413,978
{{NIFERYGOLYGIADAU}}
13413978
[MW1.10+ (r21319)] Yr allbwn yw cyfanswm y golygiadau i dudalennau a gafwyd ers i’r meddalwedd MediaWiki gael ei osod ar y safle we hon.
{{NUMBEROFARTICLES}}
{{NIFERYRERTHYGLAU}}
{{NIFEROERTHYGLAU}}
{{NUMBEROFARTICLES:R}}
281,481
281481
Yr allbwn yw cyfanswm yr erthyglau ar y wici. Gweler Mediawiki am ddiffyniad erthygl.
{{NUMBEROFPAGES}}
{{NUMBEROFPAGES:R}}
503,982
503982
[MW1.7+] Yr allbwn yw cyfanswm y tudalennau ar y wici. [2]
{{NUMBEROFFILES}}
{{NIFERYFFEILIAU}}
{{NUMBEROFFILES:R}}
11,634
11634
[MW1.5+] Yr allbwn yw cyfanswm y ffeiliau cyfrwng sydd wedi eu gosod ar y wefan.
{{NUMBEROFUSERS}}
{{NIFERYDEFNYDDWYR}}
{{NUMBEROFUSERS:R}}
94,325
94325
[MW1.7+] Yr allbwn yw nifer y defnyddwyr sydd wedi eu cofrestru ar y wici.
{{NUMBEROFADMINS}}
{{NIFERYGWEINYDDWYR}}
{{NUMBEROFADMINS:R}}
16
16
[MW1.7+] Yr allbwn yw nifer y gweinyddwyr (‘’sysop’’)ar y wici.
{{PAGESINNAMESPACE}}  analluogwyd yma Enw arall ar PAGESINNS
{{PAGESINNS:ns}}
{{PAGESINNS:ns|R}}
{{PAGESINNS:2}} 
{{PAGESINNS:2|R}} 
analluogwyd yma
[MW1.7+] Yr allbwn yw nifer y tudalennau yn y parth a nodir. Caiff ei analluogi yn ddiofyn; i’w alluogi defnyddiwch Nodyn:H:mwg.


Gair Enghraifft Canlyniad yr esiampl Eglurhad
{{PAGESINCATEGORY:category}}
{{TUDALENNAUYNYCAT}}
{{PAGESINCAT}}
{{PAGESINCATEGORY:category|R}}
{{PAGESINCATEGORY:User en}}
{{PAGESINCATEGORY:User en|R}}
0
0
[MW1.13+] Yn dangos nifer y tudalennau yn y categori a enwir. Mae’n cynnwys tudalennau is-gategori a thudalennau disgrifio ffeiliau.
{{PAGESIZE:page}}
{{MAINTTUD: tudalen}}
{{PAGESIZE:page|R}}
{{PAGESIZE:Wicipedia:Geiriau_hud}}
{{PAGESIZE:Wicipedia:Geiriau_hud|R}}
10,046
10046
[MW1.13+ r33551] Yn dangos nifer y beitiau yn y dudalen a enwir.


Ailgyfeirio

golygu

Er mwyn creu tudalen ailgyfeirio rhaid rhoi’r gystrawen wici canlynol ar frig y dudalen: #AILGYFEIRIO [[Enw'r dudalen newydd]]

Mae’r geiriau hud #AIL-CYFEIRIO [[Enw'r dudalen newydd]] a #REDIRECT [[Enw'r dudalen newydd]] hefyd yn gwneud yr un gwaith.

Gweler hefyd

golygu