Wicipedia:Parth cyhoeddus

Dywedir fod gwaith sydd o fewn y parth cyhoeddus yn waith ble mae'r eiddo deallusol wedi dod i ben,[1] ei fforffedu[2] neu'n anaddas. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys gwaith Dafydd ap Gwilym a Beethoven, y Beibl, y rhan fwyaf o hen ffilmiau (di-sain), fformiwlâu ffiseg Newton, a phatentau awyrennau cynnar. [1] Nid yw'r term hwn, fel arfer, yn cael ei ddefnyddio mewn amgylchiadau pan fo crëwr y gwaith yn cadw hawliau atodol neu ychwanegol. Yn yr achos yma dywedir fod y gwaith "dan drwydded" neu "gyda chaniatâd".

Mewn defnydd pob dydd, mae'r parth cyhoeddus yn cynnwys gwaith sydd ar gael i'r cyhoedd; ond mae'r diffiniad ffurfiol yn gwrthod perchnogaeth breifat o'r gwaith neu ar gyfer defnydd gan y cyhoedd.[2] Gan fod hawliau o'r math hwn yn gyfyngedig i un wlad, gall y gwaith fod yn ddarostyngedig i hawliau un wlad ond nid i wlad arall. Mae'n rhaid felly gofrestr rhai hawliau mewn mwy nag un wlad. Mae diffyg cofrestriad o hawliau mewn un wlad arbennig, os yw'n angenrheidiol, yn golygu statws parth cyhoeddus yn y wlad honno.

Caiff y Parth Cyhoeddus ei gydnabod fel twll (neu safety valve) o fewn deddfau hawlfraint.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Boyle, James (2008). The Public Domain: Enclosing the Commons of the Mind. CSPD. t. 38. ISBN 978-0-300-13740-8.
  2. 2.0 2.1 Graber, Christoph B.; Nenova, Mira B. (2008). Intellectual Property and Traditional Cultural Expressions in a Digital Environment. Edward Elgar Publishing. t. 173. ISBN 978-1-84720-921-4.