Defnyddiwr:9cfilorux/Polisi rhwystro

 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Sylwer: nid yw'r canlynol yn bolisi; mae'n ddrafft gan un person ar hyn o bryd.

Bwriadir rhwystrau[1] fel cyrchfa olaf i atal aflonyddu i'r wici. Ni ddylid eu defnyddio ond pan mae'n angenrheidiol; hynny yw, pan mae'n glir nad oes ffordd well i atal y defnyddiwr rhag achosi trafferth. Dylid rhybuddio defnyddwyr lle ymddengys i fod yn bosibl y gellir eu perswadio i ddod yn adeiladol, neu o leiaf peidio ag aflonyddu, y dylent ymddwyn yn wahanol ac y bydd canlyniadau os byddant yn peidio, cyn bydd canlyniadau mewn gwirionedd. Ar y llaw arall, ni ddylid rhybuddio'r rhai lle mae'n glir nad eu bod yma am ddim ond achosi trafferth, ond dylid eu rhwystro.

Fel mae gwahaniaethau nodedig rhwng y canllawiau ar gyfer rhwystro siaradwyr Cymraeg ac eraill, fe'u rhannwyd yng ngwahanol adrannau.

Siaradwyr Cymraeg golygu

Golygiadau mewn ffydd dda golygu

Os bydd y defnyddiwr yn ceisio, ond yn methu, bod yn adeiladol, dylid dweud wrthynt beth a ddisgwylir o olygyddion Wicipedia. Os byddant yn methu cydweithredu wedi'r rhybudd cyntaf, dylid rhoi ail un; os byddant yn methu eto dylid eu rhwystro.

Fandaliaeth golygu

Os bydd y defnyddiwr yn fandaleiddio am y rhan fwyaf ac fydd e ddim yn ymddangos i fod yn ceisio helpu Wicipedia, dylid ei rybuddio unwaith beth a ddisgwylir ohono, ac os bydd yn anwybyddu'r rhybudd dylid ei rwystro.

Eraill golygu

Golygiadau mewn ffydd dda golygu

Os bydd yn debyg i ddefnyddiwr geisio gwella'r wici ond bydd Cymraeg eithaf gwael ganddo, peidiwch â'i rybuddio gyda nodyn Cymraeg. Dylid defnyddio neges o ryw fath, yn Saesneg mwy na thebyg, sy'n pwysleisio mai'r Wicipedia Cymraeg yw hwn ac mae'n well dysgu Cymraeg cyn ceisio cyfrannu, yn lle hynny. Os bydd y defnyddiwr yn parhau i gyfrannu yn iaith dramor/ieithoedd tramor ac mae'n achosi mwy o niwed na gwelliant, dylid ei rwystro a'i rybuddio am y rhwystr - unwaith eto, dim yn Gymraeg, fel nid yw'n debyg iddo ddeall.

Fandaliaeth golygu

Ni fynnir rhybuddio cyn rhwystro am fandaliaeth amlwg a pharhaus yn iaith dramor.

Rhybuddio cyn/yn lle rhwystro golygu

Ni fwriadir rhybuddio ond ar gyfer defnyddwyr lle mae'n glir iddynt geisio bod yn adeiladol a/neu sydd wedi arddangos peth gwybodaeth o Gymraeg. Y pwynt mewn peidio â defnyddio nodau safonol Cymraeg ond ar gyfer siaradwyr Cymraeg yw na fydd defnyddwyr nad yw'n siarad Cymraeg yn deall y bar neges sy'n dweud bod negeseuon newydd ganddynt (os byddant yn deall y bar o ddim ond y cyd-destun, bydd yn debyg iddynt fod yn ddigon brofiadol nes nad oes angen arnynt gael rhybudd).

Cyfeiriadau golygu

  1. Gelwir rhwystro a rhwystr hefyd yn flocio a bloc.