Wicipedia:Wicibrosiect Cyfoethogi erthyglau

Mae'r prosiect yma'n deillio o edafedd a gafwyd yn y Caffi: '1,000 erthygl pwysicaf. Y Gymraeg yn 83ydd'.

Y bwriad yw cyfoethogi'r cynnwys ar y 1,000 erthygl bwysicaf (yn ol Meta!) Mae'r rhestr yma o ieithoedd, ar Meta yn nodi swmp 1,000 o erthyglau ym mhob iaith, gan roi sgor iddyn nhw! Ym Mawrth 2021, ar gychwyn y prosiect, roedd y Gymraeg yn 83ydd; erbyn diwedd y flwyddyn roedd yn 62fed. Yr ochr arall i'r geiniog mae'r ddadl bod angen mwy o erthyglau arnom, ac mai ychydig o bobl sydd angen erthygl hirfaith dros 30 kb.

Y rheswm pennaf pam fod sgor y Gymraeg yn gymharol isel yw bod cymaint o egin erthyglau gennym ni (889 ar gychwyn y prosiect), a dim ond llond dwrn o erthyglau hir (dros 30kb)! Egin, yn eu llygad nhw, ydy unrhyw erthygl gyda llai na 10,000kb. Erthyglau gyda dros 30kb sy'n dod a'r sgor ucha.

Stats achlysurol


Dyddiad Eginyn > 10kb >30kb Sgor Safle
1 Mawrth 2021 889 136 10 14.94 83ydd
5 Ebrill 854 136 16 16.53 78fed
6 Hydref 801 159 40 19.97 69fed
6 Tachwedd 785 156 58 21.46 66ed
6 Rhagfyr 763 165 72 23.01 63ydd
5 Chwefror 2022 732 164 104 25.82 59fed
4 Ebrill 722 161 117 26.88 58fed
6 Mehefin 697 154 149 29.49 56ed
6 Mai 2023 678 159 163 30.90 55ed

Byddai medru cael tabl otomatig o'r erthyglau sydd a llai na 10kb yn cael ei greu'n fyw (on the fly) yn beth da (syniad @Cwmcafit:).

Cwbwlhawyd:

  • Daearyddiaeth: Llywelyn000
  • Mathemateg: Llywelyn2000: Llywelyn000
  • Crefydd: Llywelyn000

Ar y gweill:

  • Bioleg: Organebau - Llywelyn2000
  • ychwanegwch / bachwch eich byd!

Sylwadau a syniadau golygu