Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio/Dyniaethau

''Gofynnwch eich cwestiynau ynglŷn â dyniaethau yma gan roi cynnig yma. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Dathliadau Dydd Gwyl Dewi

golygu

A fydde hi'n bosib i ychwanegu gwybodaeth am ddatblygiadau Dydd Gwyl Dewi dros y blynyddoedd olaf? Dyma ddogfen dwi'n gyrru allan i unrhywun sydd eisiau hybu y traddodiadau dwi wedi eu creu a'u datblygu dros y bron i ugain mlynnedd. Mae na wybodaeth ar Wici Cymraeg parthed ag Anthem Dydd Gwyl Dewi.

Dyma'r erthygl gafodd ei chyhoeddi yn Nation Cymru parthed hyn:

https://nation.cymru/culture/how-did-a-song-transform-saint-davids-day-celebrations-around-the-world/

Sut Wnaeth Can Drawsnewid Dathliadau Dewi ar draws y byd?

Cyn 2004 r’oedd dathliadau Dydd Gwyl Dewi (DGD) yn cynnwys –  cawl a chyngherddau, Eisteddfodau mewn ysgolion, pice ar y maen, gwisgo cenhinau a chenhinau pedr, plant yn gwisgo lan mewn gwisgoedd traddodiadol a siwmperi rygbi, ambell i bwt o ‘Calon Lan’ ac felly y bu am flynyddoedd maith cyn hynna.

Ond yn 2004 cafwyd Gorymdaith Genedlaethol DGD (GGDGD) gyntaf yng Nghaerdydd gyda cwpwl o gannoedd yn bresennol. (Trefnwyr Gareth Westacott a Henry Jones Davies)

Yn 2005, tra’n taro copi o gloch ddur Dewi Sant, (Bangu) yn Ail GGDGD penderfynodd y berfformwraig a’r ddarlledwraig Gwenno Dafydd ei bod ishe creu can, anthem ddwyieithog, yn arbennig i ddathlu dydd ein Nawdd Sant Dewi, gan nad oedd can arbennig yn bodoli ar y pryd.

A dyna fan cychwyn ‘Cenwch y Clychau I Dewi’ (CyC) – (Geiriau Gwenno Dafydd. Cerddoriaeth Heulwen Thomas) Bryd hynny d’oedd gan Gwenno ddim syniad y byddai’r gan a’r cyhoeddusrwydd oedd hi yn llwyddo ei gael yn ei sgil, yn fan cychwyn o hybu twf pareds, ysgogi ar dair Baner Sirol, Pareds a Baneri Ysgol a thraddodiad newydd wnaeth hi ei ysgogi yn 2023 o’r enw #DewchIDrochiDrosDewi a daeth y gan yn bry-copyn canolog yn y twf enfawr o we o ddathliadau DGD nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd

Yn dilyn perfformiad swyddogol cyntaf ‘Cenwch y Clychau i Dewi’ gan Gwenno a Heulwen yn GGDGD 2005 cafodd Gwenno wahoddiad i ddod yn Swyddog Ysgolion i GGDGD a tyfodd hyn i fod yn saith mlynnedd o wasanaeth gwirfoddol  i’r Pwyllgor.

Yn ystod y cyfnod yma, drwy ddefnyddio ei sgiliau marchnata a darlledu a defnyddio’r gan fel ‘lever’i greu cyhoeddusrwydd ENFAWR yn y wasg ag ar y teledu, (Bu Tinopolis yn gefnogol iawn o’r cychwyn cyntaf) fe ffrwydrodd twf GGDGD - erbyn 2007 gydag o leiaf 300 o blant yn bresennol wnaeth chwyddo y dorf o’r cwta cannoedd I dros fil a hanner, heb son am y bobol oedd yn gwylio ar y strydoedd.

Yn dilyn hyn aeth Gwenno ynghyd a Gareth Westacott (yn cynrychioli GGDGD) mewn i bartneriaeth gyda Chyngor Sir Caerdydd a’r Senedd ac yn y blynyddoedd golynol oherwydd eu cefnogaeth, fe dyfodd GGDGD I oddeutu 6,000 ar y Sadwrn (2008) a tua 10,000 ar y Sul (2009).

Yn 2008 cafodd ‘Cenwch y Clychau i Dewi’ ei lawnsio yn y Senedd gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas fel rhan ganolog o gynllun addysgiadol y Grid Genedlaethol am Dewi Sant. Ers hynna mae hi wedi ennill ei phlwyf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ar draws y byd ac mae bellach yn cael ei hadnabod fel Anthem Dydd Gwyl Dewi. (ADGD)

Mae ADGD wedi bod yn llatai i Cymru a DGD ac wedi cael ei pherfformio yn Canada (Ottowa, Toronto), America (Scranton, Los Angeles nifer helaeth o weithiau) Patagonia (Sawl gwaith) , Disneyland Paris (x2), San Steffan, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi – blynyddoedd yn olynol, Neuadd y Brangwyn ac mewn pareds ac ysgolion ar draws Cymru – rhan bwerys a soniarus o Ddathliadau Dewi ellid cael ei pherfformio ym mhedwar ban byd. Cafodd Gwenno  wahoddiad i fod yn Llysgenhad DGD i’r Byd gan wefan Americymru n’ol yn  2016 fel cydnabyddiaeth o’i gwaith rhyngwladol yn hybu DGD.

Gadawodd Gwenno Pwyllgor GGDGD yn 2011 i ganolbwyntio ar ei gwaith ei hun (gafodd ei esgeuluso’n fawr oherwydd ei hymrwymiad i GGDGD) ac fe ganolbwyntiodd ar gynlluniau eraill oedd i hybu Dathliadau Dewi.

Ers hynna mae wedi ysgogi tair Baner Sirol (Sir Benfro, Sir Gar a Sir Drefaldwyn) – sydd yn cael eu defnyddio yn dalog ar flaen Pareds Sirol, Baneri a Pareds DGD ysgolion ( Mae’r faner ysgol gyntaf erioed yn San Ffagan ers 2019 ) Mae’r rhain i gyd gyda geiriau a delweddau o’r anthem fel cnewllyn iddyn nhw. Mae mwy ar y gweill – mae un wedi ei chadarnhau i Ynys Mon i 2025 ac mae Gwenno yn cynnal trafodaethau gyda Sir Gaernarfon a Cheredigion.

Yn 2023 fe ysgogodd Gwenno draddodiad newydd er cof am Dewi Ddyfriwr o’r enw  #DewchIDrochiDrosDewi ac yn dilyn canu ADGD fe arweinodd Gwenno dau griw o #DewiDrochwyr i mewn i’r mor ym Mae Traeth Mawr, ger Ty Ddewi ac yn ddiweddarach yn y Morlun Glas (Blue Lagoon) yn Abereiddi eto yn Sir Benfro.

Gobaith Gwenno yw y bydd hwn yn draddodiad newydd hwyliog fydd yn tyfu ar draws y byd. Mae criw o ddysgwyr yn Washington, UDA yn awyddus i’w wneud ac ar Mawrth y 3ydd mae Alwen Pennant wedi creu digwyddiad arbennig ym Mae Trearddur, gyda cor ar y traeth yn canu ADGD cyn I bobol ruthro mewn i’r dwr I nofio gyda penwisgoedd cenin-pedr ac I fwyta #PiceArYTraeth ar ol dychwelyd.

Ond un cwestiwn pwysig sy’n parhau - sut dyfodd pareds Cymru o dri yn 2014  - GGDGD yng Nghaerdydd, Pared Aberystwyth  (Sion Jobbins) a Phared Pwllheli (Rhys Llewelyn ar ddechrau) i dros 25 pared ar hyd a lled Cymru yn ddiweddar? Wel dyma pam. Gwaith bob dydd Gwenno yw Annogydd  a Hyfforddwraig Arweinyddiaeth llawrydd a cafodd wahoddiad gan y Mentrau Iaith i gyflwyno cwrs ar Rwydweithio yn Aberystwyth ar y 24ain o Fedi 2014.  Yn dilyn hyn gofynnodd Gwenno i’r trefnydd Emily Cole os fuase hi yn cael gneud cyflwyniad am y Dathliadau Dewi oedd hi wedi eu sefydlu (Anthem, Baner Sirol, Baneri Ysglion ayb. a’r flwyddyn olynol fe ddechreuodd y Mentrau Iaith drefnu pareds ar hyd a lled Cymru a mae nhw yn tyfu yn fwy niferys bob blwyddyn.

Felly beth wnewch chi i wneud Anthem Dydd Gwyl Dewi yn bry cop eich Dathliadau Dewi chi?

·        Creu Baner Sirol,Trefol neu Ysgol a’i gorymdeithio dalog ar flaen eich pared neu o amglych iard yr ysgol cyn mynd i mewn i gael eich Eisteddfod?

·        Creu digwyddiad #DewchIDrochiDrosDewi a cael cor lleol i ganu ADGD a cael #PiceArYTraeth i’r #DewiDrochwyr ?

Gellid prynu’r anthem fan hyn. Mae pedair fersiwn: Cor Meibion, Cor Merched, Cor Cymysg ac unigolyn.  https://tycerddshop.com/collections/types?q=&constraint=composer_gwenno-dafydd

Os hoffe chi weld mwy am y traddodiadau newydd yma cerwch i : https://www.youtube.com/playlist?list=PLL5kFg0P4DspmjllkG3c6KVsHft3bVPQy

Yn gywir

Gwenno Dafydd


92.9.133.143 18:58, 30 Medi 2024 (UTC)[ateb]