Wicipedia Almaeneg

Wicipedia yn yr iaith Almaeneg

Fersiwn Almaeneg o Wicipedia yw'r Wicipedia Almaeneg (Almaeneg: Deutschsprachige Wikipedia). Fe'i sefydlwyd ar 16 Mawrth 2001, a chyhoeddwyd y newyddion gan Jimmy Wales.[1] Yr enw gwreiddiol oedd deutsche.wikipedia.com.

Wicipedia Almaeneg
Enghraifft o'r canlynolWicipedia mewn iaith benodol, MediaWiki instance Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Mawrth 2001 Edit this on Wikidata
PerchennogSefydliad Wicimedia Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GweithredwrSefydliad Wicimedia Edit this on Wikidata
CynnyrchGwyddoniadur rhyngrwyd Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://de.wikipedia.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo Wicipedia Almaeneg
Sgrinlun o Hafan y Wicipedia Almaeneg

Erbyn heddiw (Rhagfyr 2024), mae ganddi oddeutu 2,970,000 o erthyglau.

Hyd Medi 2008, roedd dros 800,000 o erthyglau ar y Wicipedia Almaeneg,[2]. Ym mis Chwefror 2008, rodd 89% o'r erthyglau dros 512 beit a 47% dros 2 cilobeit, cyfartaledd maint erthygl oedd 3330 beit.[3] Roedd gan y rhifyn hwn 125,000 o fywgraffiadau, a thros 48,500 o dudalennau gwahaniaethu.[4]

Gwahaniaethau

golygu

Mae'r Wicipedia Almaeneg yn wahanol i'r Wicipedia Saesneg mewn sawl modd:

  • Mae'r dull o benderfynu a yw erthygl yn haeddu ei lle (sef Amlygrwydd) yn wahanol i'r Saesneg ac yn debycach i'r llinynnau mesur a ddefnyddir ar y Wicipedia Cymraeg. Barn y golygyddion a geir yn hytrach na rheolau caeth megis: "a oes erthygl dudalen flaen wedi bod ar y gwrthrych - a hynny mewn papur newydd cenedlaethol?" Fe geir rheolau ond mae'n nhw'n wahanol ar gyfer gwahanol feysydd a themâu.[5]
  • Ni ddefnyddir y drwydded "Defnydd Teg" ar y Wici Almaeneg. Mae'r categori o luniau Defnydd Teg a ddefnyddir ar y Wicipedia Saesneg a Chymraeg yn annerbyniol ar y Wici Almaeneg, oherwydd deddfau hawlfraint gwahanol.[6] Fodd bynnag caniateir llawer mwy o weithiau gwreiddiol celfyddydol - ac mae hyn yn cwmpasu logos cwmnïau hefyd, na chaniateir ar y Wicipedia Saesneg.
  • Rhoddir blaenoriaeth i ffynonellau dibynadwy, ysgolheigaidd yn hytrach na ffynonellau newyddiadurol a'i math. Caniateir ffynonellau o bapurau newydd yn unig os nad oes unrhyw ffynhonnell gadarnach ar gael.[7]
  • Mae'n rhaid i erthyglau ar wrthrychau sy'n haeddu eu lle o ran amlygrwydd orfod fod o safon; oherwydd hyn nid oes y fath beth â "eginyn" neu "stubs" yn bodoli. Ni ddefnyddir hyd erthygl, neu sawl gair sydd ynddi fel llinyn mesur, eithr pa mor dda mae wedi'i hysgrifennu, gan ystyried ansawdd yr erthygl, nid ei faint.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jimmy Wales: [Wikipedia-l] Alternative language wikipedias, 16 Mawrth 2001
  2. Ystadegau Wicipedia Almaeneg
  3. http://stats.wikimedia.org/EN/TablesWikipediaDE.htm Ystadegau, 19 Mehefin 2008
  4. http://de.wikipedia.org/wiki/Spezial:Mostlinked 29 Rhagfyr 2006
  5. ""Relevanzkriterien" (canllawiau Amlygrwydd)". 13 Ionawr 2009. Cyrchwyd 13 Ionawr 2009.
  6. ""Bildrechte" (image rights)". 10 Ionawr 2009. Cyrchwyd 13 Ionawr 2009.
  7. "Wikipedia:Belege – Wikipedia" (yn (Almaeneg)). De.wikipedia.org. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2010.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Stub, http://de.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Stub
 
Wikipedia