Wil Cefn Coch
Roedd William Richards neu Wil Cefn Coch yn botsiar a gyhuddwyd o saethu a lladd ceidwad tir Ystâd Trawscoed o'r enw Joseph Butler, cyn dianc i Ohio, UDA.
Stori
golyguPotsiar oedd William Richards neu Wil Cefn Coch fel yr adnabyddir ef. Aeth i botsio gyda'r brodyr Jones, sef Morgan a Henry Tŷ'n Llwyn, gan gario dau ddryll a phastwn. Pan aeth y tri i Goed Gwern Dolfor, fe aeth pedwar cediwad tir yr ystâd ar eu hôl ar ôl clywed sŵn gwn yn tanio. Aeth y tri i Gae Caergwyn ar frys cyn troi i weld James Morgan yn eu herio. Cyrhaeddodd y tri ardd bwthyn Cwmbyr ac yna Gwmbyr-bach. Erbyn hyn roedd Butler wedi dal i fyny â Morgan ac ar fin gafael yn un o'r tri pan drodd y talaf o'r potsieriaid a saethu Butler. Llwyddodd James Morgan i ddal y potswr Morgan Jones, a beiodd Jones Wil Cefn Coch am y saethu. Bu farw Joseph Butler o ergyd i'w galon.[1]
Cuhyddo'r brodyr Jones
golyguCyhuddwyd Morgan Jones yn Llys Bach Llanilar o fod yn gysylltiedig â llofruddiaeth Joseph Butler ac o herwhela, a chadwyd ef yn y ddalfa. Yna, ildiodd Henry Jones ei hun i'r heddlu a chyhuddwyd ef o'r un troseddau â'i frawd. Ym Mrawdlys Gwanwyn Sir Aberteifi ar 7 Mawrth 1869 cafwyd Morgan Jones yn euog o herwhela yn unig a charcharwyd ef am flwyddyn. Doedd dim digon o dystiolaeth i ddedfrydu Henry.[1]
Cuddio Wil
golyguYn ôl y sôn, cuddiodd Wil yn yr ardal am ddau neu dri mis a drefnwyd gan drwsiwr oriawr, dafydd Joseph. Cuddiodd Wil mewn pwll rhod mewn Melin, a thro arall o dan ddillad gwely lle'r roedd mam yn bwydo baban wrth i heddlu chwilio'r ffarm. Aeth plismyn at ei dŷ ar ôl clywed ei fod yn mynd adref ac ar ol gofyn i'w fam os oedd yno, dywedodd hithau 'Ydi!' gan achosi i un plismon faglu, cwympo a thorri ei goes a diancodd Wil eto. Dosbarthwyd posteri gan gynnig gwobr am wybodaeth fyddai'n arwain at arestio Wil.[1]
Dianc
golyguTrefnodd Dafydd Josepha'r bardd John Jones i symud Wil i Lerpwl ac yna ar long i America. Cerdodd y tri i Lerpwl ac fe wnaeth Dafydd Josph roi colur ar wyneb Wil i newid ei edrychiad. Roedd pob llong yn cael ei wylio, felly gwisgwyd Wil mewn dillad menyw ac aeth ar long i America. Glaniodd Wil yn Pennsylvania ac yna teithio i Ohio lle'r oedd nifer fawr o Gymry yn Oak Hill, gyda llawer o Sir Aberteifi.[1]
Un tro, yn ystod dadl mewn bar, taflodd Wil gyllell at ddyn arall, ond ni ddaeth yr awdurdodau ddwyn achos yn ei erbyn.[1]
Newidiodd Wil ei enw a dechreuodd weithio fel gwas fferm. Priododd â Gwyddeles oedd yn forwyn yno. Parhaodd Wil i ysgrifennu at deulu a ffrindiau yn Mynydd Bach ac mewn llythyr, dywedodd un o'i ffrindiau fod yr heddlu wedi darganfod lle roedd yn byw ac yn ystyried anfon uwch swyddog i'w gymryd yn ôl i Gymru. Atebodd Wil, 'Byddaf yn falch iawn o groesawu unrhyw un o'r hen wlad,' ond y dylai'r swyddog ffarwelio â'i ffrindiau gan fyddai'n mynd yn ôl adref.[1]
Bu farw yn Oak Hill.[1]
Cyfres
golyguGwnaed ffilm o hanes Wil Cefn Coch yn y gyfres deledu S4C, "Dihirod Dyfed". Mae'r ffilm bellach ar y cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg.
Cyfeiradau
golygu- Erthygl am Wil Cefn Coch yn adran 'Adar Brith' BBC Cymru