William Bingley
Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith Seisnig oedd William Bingley (Ionawr 1774 – 11 Mawrth 1823). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn ogystal. Cyhoeddodd ddau lyfr am ei deithiau yng Ngogledd Cymru ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19g.
William Bingley | |
---|---|
Ganwyd | Ionawr 1774 ![]() Doncaster ![]() |
Bedyddiwyd | 7 Ionawr 1774 ![]() |
Bu farw | 11 Mawrth 1823 ![]() Charlotte Street ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd, clerig ![]() |
Plant | William Bingley ![]() |
Myfyriwr ifanc ar ei wyliau oedd Bingley pan deithiodd o gwmpas gogledd Cymru y tro cyntaf. Roedd hynny yn y flwyddyn 1798, pan lesteirwyd pobl rhag mynd ar y Grand Tour ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y Chwyldro Ffrengig. Ac eithrio Thomas Pennant, Bingley yw un o'r teithwyr cynharaf i gofnodi ei brofiad o deithio yng Nghymru; arfer a ddaeth yn ffasiynol iawn dros y degawdau olynol a welodd gyhoeddi rhai dwsinau o lyfrau taith gan y twristiaid cynnar hyn. Ychydig o werth sydd i'r rhan fwyaf o'r cyfrolau, ond mae llyfr Binlgey, Tour round North Wales (1800), yn wahanol. Mae penodau fel ei daith i ben Yr Wyddfa i chwilio am blanhigion prin yn sefyll allan. Mae ganddo hanesion am leoedd a phobl hefyd, wedi'i sgwennu mewn arddull bywiog gan rywun a ymddiddorai yn y Cymry a'u traddodiadau.
Cyhoeddodd ail gyfrol, North Wales Delineated from Two Excursions, yn 1804. Diddorol hefyd yw ei gyfrol arloesol ar gerddoriaeth Cymru, Sixty of the Most Admired Welsh Airs.
Llyfryddiaeth
golygu- Tour round North Wales (1800)
- North Wales Delineated from Two Excursions (1804)
- Sixty of the Most Admired Welsh Airs, mewn dwy gyfrol (1803, 1810)