William Edwards (peiriannydd)

gweinidog Annibynnol a phensaer

Peirianydd sifil o dde Cymru oedd William Edwards (bedyddiwyd 8 Chwefror 17197 Awst 1789). Yn ffermwr ar hyd ei oes, ac yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn gynghorydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd hefyd, cafodd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd ac adeiladydd pontydd yn ne a gorllewin Cymru.[1]

William Edwards
GanwydChwefror 1719 Edit this on Wikidata
Eglwysilan, Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw7 Awst 1789 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpensaer, ffermwr Edit this on Wikidata

Ganed William Edwards ym mhlwyf Eglwysilan, Morgannwg, yn 1719. Roedd ei dad yn ffermwr a bu rhaid i'r mab weithio ar y fferm, felly ni chafodd lawer o addysg ffurfiol. Bu ganddo ddawn at adeiladu pethau ar y fferm ac yn nes ymlaen symudodd i Gaerdydd lle cafodd waith yn codi gefeiliau gof. Yn y dref honno dysgodd ei dipyn Saesneg.

Daeth ei gyfle mawr yn 1746 pan ymgymerodd â'r gwaith o godi pont ar afon Taf yn ei blwyf genedigol, ym mhentref bychan (y pryd hynny) Pontypridd.[2] Golchwyd y bont, a godwyd ar bentanau, i ffwrdd gan y llif ar ôl glaw trwm ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd Edwards wedi addo y byddai'r bont yn sefyll am saith mlynedd ac felly aeth ati i'w hail-godi. Pont un bwa oedd hon, ond yr un fu ei thynged oherwydd gormod o bwysau. Hyd yn hyn roedd wedi dilyn cynlluniau pobl eraill, ond ail-ddechreuodd ar y gwaith â chynllun o'i eiddo ei hun. Cadwodd at y cynllun o bont un bwa ond y tro yma tyllodd yr ystlysau i leihau'r pwysau mawr a safodd. Pan orffenwyd y bont yn 1755 dywedwyd mai hi oedd y bont un bwa fwyaf a harddaf yn y byd.

Mewn canlyniad daeth William Edwards yn enwog a bu galw mawr am ei wasanaeth. Cododd sawl pont arall, dros afon Tywy ac afon Wysg, yn Llanymddyfri, Aberafan, Y Betws a'r Clas-ar-Wy. Honnai fod ei gynllun arbennig o adeiladu yn dod o sylwi'n fanwl ar adeiladwaith Castell Caerffili.

Hyd ei ddyddiau olaf parhaodd i ffermio ar fferm y teulu a gwasanaethu fel gweinidog. Bu farw yn 1789 gan adael chwech o blant ar ei ôl. Cododd un o'i feibion, Dafydd, bont Llandeilo a phont Casnewydd.

Ffynhonnell

golygu
  • John James Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937), tt.200-201

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jones, John Morgan Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I; pennod X-Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf tud 228-9
  2. William Edwards yn Y Bywgraffiadur Arlein LlGC