William George Cove
Roedd William George Cove (21 Mai 1888 – 15 Mawrth 1963) yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur o 1923 i 1959.
William George Cove | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mai 1888 Pontypridd |
Bu farw | 15 Mawrth 1963 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Cove ym Mhontypridd ar 21 Mai 1888 yn un o 10 o blant i Edwin Cove, glowr a oedd yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw, a Jane ei wraig. Cyn cael ei ethol yn AS bu yn gweithio fel athro ym Mhontypridd [1]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n aelod o gorfflu meddygol y fyddin yr RAMC o 1915 i 1918 [2]
Gyrfa wleidyddol
golyguCafodd ei ethol i Senedd San Steffan am y tro cyntaf ym 1923 yn gynrychiolydd y Blaid Lafur dros Wellingborough yn Swydd Northampton; cafodd ei ail-ethol i'r un sedd yn etholiad 1924. Ar ôl i Ramsey MacDonald symud o etholaeth Aberafan i etholaeth Seham safodd Cove yn ei le yn Aberafan yn etholiad 1929 a bu'n cynrychioli'r sedd yn San Steffan hyd ei ymddeoliad ym 1959.[3]
Bywyd personol
golyguPriododd Mary Jones ym Mhontypridd ym 1915.
Bu farw yn 74 oed yn Chipping Norton, Swydd Rydychen.