William Roberts (anterliwtiwr)

bardd ac anterliwtiwr

Bardd Cymraeg ac anterliwtiwr oedd William Roberts (bl. 1745), a aned ym Mur Llwyd, Llannor, Sir Gaernarfon rywbryd cyn tua 1725. Ysgrifennodd anterliwt yn lladd ar y Methodistiaid o'r enw Interlude Morgan y Gogrwr ar Cariadogs neu Ffrewyll y Methodistiaid, y cyfeirir ati gan amlaf fel Ffrewyll y Methodistiaid, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1745.

Llyfryddiaeth

golygu
  • A. Cynfael Lake (golygydd), Ffrewyll y Methodistiaid (Gwasg Prifysgol Cymru, 1998).

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.