William Thomas (Gwilym Marles)

gweinidog Undodaidd, diwygiwr cymdeithasol, llenor, ac ysgolfeistr

Bardd, ysgolhaig a gweinidog Undodaidd oedd Gwilym Marles, neu Gwilym Marlais, enw barddol y Parch. William Thomas (7 Ebrill,[1] 1834 - 11 Rhagfyr 1879).[2] Roedd yn ewythr i dad y bardd Dylan Thomas:[3] credir y tynnodd Dylan ar gof ei dad am Wilym Marles yn ei bortread o'r Parchedig Eli Jenkins yn y ddrama Under Milk Wood.[4] Os felly, gwnaeth Dylan gam mawr a'i hen ewyrth. Cymeriad comig yw'r Parch Eli Jenkins, yn canu cerddi diddrwg-didda. Roedd Gwilym Marlais yn fardd llawer gwell na chyffredin beirdd ei gyfnod, ac yn ymgyrchydd triw dros Gymru, y Gymraeg a gwerin Cymru.

William Thomas
FfugenwGwilym Marles Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Ebrill 1834 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1879 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaJohn Gwenogfryn Evans Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd yn frodor o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin lle y'i ganed yn y flwyddyn 1834. Roedd yn fab i William Thomas, amaethwr ac Ann (cynt Jones) ei wraig. Mabwysiadwyd Gwilym gan chwaer ei dad. Cafodd ei fagu ar aelwyd oedd yn ffyddlon i enwad yr Annibynwyr. Cafodd ei addysgu yn ysgol Ffrwd y Fal o dan y Dr William Davies. O Ffrwd y Fal aeth i Athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin. Enillodd ysgoloriaeth Dr Daniel Williams oedd yn caniatáu i fechgyn o gefndiroedd anghydffurfiol cael addysg brifysgol yn yr Alban ar adeg pan na chaniatawyd i anghydffurfwyr mynych brifysgolion Rhydychen na Chaergrawnt. Graddiodd MA o brifysgol Glasgow ym 1860.[5]

Wedi graddio cafodd ei ordeinio yn weinidog ar gapeli'r Undodiaid yn Llwyn Rhyd Owen a Bwlch y Fadfa. Yn ogystal â bod yn weinidog agorodd ysgol yn Llandysul.[6] Roedd yn athro preifat i'r bardd William Thomas (Islwyn) (1832-1878).

Yn y 1860au a'r 1870 bu llawer o anghydfod rhwng anghydffurfwyr Rhyddfrydol a'u landlordiaid Anglicanaidd. Cafodd nifer o denantiaid ffermydd eu troi o'r tir am gefnogi'r achos Rhyddfrydol mewn gwleidyddiaeth ac am wrthwynebu talu ardreth i gynnal ysgolion Anglicanaidd nad oedd eu plant hwy yn cael eu mynychu. Gan fod Gwilym yn rhoi cefnogaeth gyhoeddus i'r ddwy achos cafodd ef a'i gynulleidfa eu troi allan o gapel Llwyn Rhydowen ym 1876 gan landlordiaid tir y capel, teulu Lloyd ystad Alltyrodyn[5] Gweithred oedd yn cael ei hystyried yn ofnadwy o greulon gan fod ei wraig gyntaf a'i ferch fach wedi claddu ym mynwent y capel. Ar ôl cael eu troi allan bu Gwilym a'i gynulleidfa yn cynnal gwasanaethau yn yr awyr agored ar yr heol tu allan i'r capel, gyda newyddiadurwyr o bob parth o'r DU yno i wneud adroddiadau am y digwyddiad.[7]


Bu Gwilym Marles yn briod dwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Mary Hopkins priododd hi ym 1858. Bu iddynt fab a thair merch. Wedi i Mary Hopkins marw ym 1867 priododd Gwilym a Mary Williams ym 1868, bu iddynt pedair merch a thri mab.

Marwolaeth

golygu

Gwan bu iechyd Gwilym Marlais trwy gydol ei oes ond gwaethygodd ar ôl y troi allan. Aeth ar daith i gefn gwlad yr Alban ac ar fordaith i geisio iachâd. Bu farw ar yr 11eg o Ragfyr 1879 yn 45 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent capel newydd Llwyn Rhydowen.[8]

Cerddi

golygu

Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan y teitl Prydyddiaeth yn 1859. Pruddglwyfus yw ei awen, ond mae ei gydymdeimlad â'r werin a'i athroniaeth Radicalaidd yn amlwg. Cyhoeddodd O. M. Edwards casgliad o'i gerddi a'i ysgrifau Gwaith Gwilym Marles ar gyfer Cyfres y Fil ym 1905.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwaith Gwilym Marles, gol O M Edwards, Llyfrau Ab Owen 1905, wynebddalen
  2. "THOMAS, WILLIAM ('Gwilym Marles'; 1834 - 1879), gweinidog Undodaidd, diwygiwr cymdeithasol, llenor, ac ysgolfeistr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-07-09.
  3. "William Thomas (Gwilym Marles)". uudb.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-07-09. Cyrchwyd 2023-07-09.
  4. "Llandysul". DylanThomas.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-07-09. Cyrchwyd 2023-07-09.
  5. 5.0 5.1 Edwards, Owen Morgan, ed. (Gorffennaf 1895). "Gwylym Marles". Y Llenor (Wrecsam: Hughes a'i Fab) Llyfr III: 17-27. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2176032/2176239/18#?xywh=-1027%2C-243%2C3650%2C3195.
  6. Phillips, T. Talwyn (Gorffennaf 1901). "Y Parch. William Thomas, M.A., (Gwilym Marles). 1834—1879". Yr Ymofynydd Cyf. Newydd rhif. 7: 147-151. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2555083/2917244/2#?xywh=-467%2C321%2C3300%2C2117.
  7. Undodwyr, Y Tyst a'r Dydd, Rhif 304 Cyf VI, 10 Tachwedd 1876
  8. "MARWOLAETH Y PARCH WILLIAM THOMAS GWILYM MARLES - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1879-12-19. Cyrchwyd 2023-07-09.
  9. Gwaith Gwilym Marles gol O. M Edwards, ar Wicidestun