Wipo
Roedd Wipo (m. 1050) yn offeiriad o Fwrgwynwr ac awdur yn yr iaith Ladin.
Wipo | |
---|---|
Ganwyd | 995 |
Bu farw | 1048 |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd, offeiriad, cofiannydd |
Swydd | caplan |
Bu'n gaplan i Conrad II (tua 990-1039), brenin yr Almaen ac Ymerodr Glân Rhufeinig o 1027 hyd ei farwolaeth. Gan fod Conrad wedi'i goroni'n frenin Bwrgwyn yn y flwyddyn 1033, dichon bod Wipo wedi ddod yn gaplan iddo tua'r amser hwnnw.
Ysgrifennodd Wipo gronicl Ladin ar deyrnasiad Conrad II. Ymhlith ei weithiau eraill cyfansoddodd eiriau a cherddoriaeth yr emyn Ladin, neu sequentia, ar gyfer y Pasg, a elwir Victimae paschali, emyn sy'n nodweddiadol o ganu eglwysig yr 11g.
Ysgrifennodd yn ogystal gyfres o ddiharebion llenyddol, y Proverbia (1027 neu 1028), a'r Tetralogus Heinrici, a gyflwynwyd i'r ymerodr Harri III, mab ac olynydd Conran, yn 1041, sy'n moli'r ymerodr ac yn pwysleisio ei ddyletswydd i fod yn gyfiawn. Cyfansoddodd alargân ddwys a phersonol ar farwolaeth Conrad ei hun.
Llyfryddiaeth
golygu- Breslau, Wiponis Gesta Chuonradi II ceteraque quae supersunt opera (Hanover, 1878; cyf. Almaeneg gan Pfluger, Berlin, 1877; gan Wattenbach, Leipzig, 1892)