Mae Wymore yn ddinas yn Gage County, Nebraska, Unol Daleithiau America. Roedd y boblogaeth yn 1,457 yng nghyfrifiad 2010 .

Wymore, Nebraska
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,377 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGage County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd4.929087 km², 4.929083 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr378 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.1228°N 96.6656°W Edit this on Wikidata
Cod post68466 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Cafodd Wymore ei mapio a'i rhannu'n blotiau yn 1881 fel tref rheilffordd, ar dir a roddwyd gan Sam Wymore.[1] Daeth Wymore gartref i genedlaethau o fewnfudwyr o Gymru, a dyma'r Cymry hyn yn sefydlu addoldy lle roeddynt yn addoli'n Gymraeg a mynwent, yn ogystal â chynnal traddodiadau Cymreig megis barddoni, dawnsio, a chanu.

Yn 2000, sefydlwyd Prosiect Treftadaeth Cymru Wymore er mwyn cynnal etifeddiaeth yr ymsefydlwyr cynnar hyn. Ers hynny mae wedi ehangu i gynnwys amgueddfa, archif o gofnodion achau, ac un o'r llyfrgelloedd Cymraeg mwyaf yng Ngogledd America.

Mae Wymore yn gartref i'r Southern Raiders, ysgol dosbarth C sy'n gwasanaethu myfyrwyr o Barneston, Holmesville, Blue Springs, Wymore, a Liberty. Mae'r ysgol wedi ennill 2 bencampwriaeth taleithiol, y ddau mewn reslo (1974 a 1980).

Wymore, Nebraska hefyd yw man claddu'r awdur ac anthropolegydd R. Clark Mallam, y mae llyfr ganddo, Indian Creek Memories; Mae Naws am Le wedi'i selio yn y dref a'i chyffiniau.

Daearyddiaeth golygu

Lleolir Wymore yn 40°7′22″N 96°39′56″W / 40.12278°N 96.66556°W / 40.12278; -96.66556 (40.122765, -96.665494).[2]

Yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y ddinas gyfanswm arwynebedd o 1.90 milltir sgwar (4.92 km2), ac o hynny mae 1.87 milltir sgwar (4.84 km2) yn dir a 0.03 milltir sgwar (0.08 km2) yn ddŵr.[3]

Demograffeg golygu

Poblogaeth hanesyddol
Cyfrifiad Pob.
18902,420
19002,6268.5%
19102,613−0.5%
19202,592−0.8%
19302,6803.4%
19402,457−8.3%
19502,258−8.1%
19601,975−12.5%
19701,790−9.4%
19801,8412.8%
19901,611−12.5%
20001,6562.8%
−12.0%
Est. 20171,384[4]−5.0%
Cyfrifiad pob 10 mlynedd UDA[5]
Amcangyfrif 2012[6]

Pobl adnabyddus golygu

  • Jake Diekman, chwaraewr pêl fas
  • Adam McMullen, 21ain Llywodraethwr Nebraska
  • Denny Zager, artist pop-roc

Cyfeiriadau golygu

  1. "Wymore, Gage County". Center for Advanced Land Management Information Technologies. University of Nebraska. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 9 August 2014.
  2. "US Gazetteer files: 2010, 2000, and 1990". United States Census Bureau. 2011-02-12. Cyrchwyd 2011-04-23.
  3. "US Gazetteer files 2010". United States Census Bureau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-14. Cyrchwyd 2012-06-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Population and Housing Unit Estimates". Cyrchwyd March 24, 2018.
  5. United States Census Bureau. "Census of Population and Housing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-12. Cyrchwyd October 16, 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Annual Estimates of the Resident Population: April 1, 2010 to July 1, 2012". Cyrchwyd October 16, 2013.