Band pop Cymraeg o'r 1980au oedd Y Brodyr. Cysylltir y band â gogledd-ddwyrain Cymru ond o Fôn y daeth nifer o'r aelodau'n wreiddiol. Ffurfiwyd y band yn yr 1980au cynnar gan ganu yn Saesneg fel y "Modernaires" .[1] Yn ddiweddarach dechreuodd y band ganu yn Gymraeg a newidiwyd yr enw i "Brodyr (Y Ffin)" ac yna Y Brodyr. Roedd yr enw yn adlewyrchu lleoliad y band yn Saltney ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru.

Chris Thompson, Steve Hywyn Jones, Phil Bradley - Roc ystwyth, Neuadd yr Undeb, Prifysgol Aberystwyth, Awst 1986

Bu farw Hugh Hughes mewn tân yng Nghaer yn 1985. Aeth y drymiwr Dave Baynton-Power ymlaen i chwarae gyda'r grwp Saesneg James.[2] Yn 2003, ail-ffurfiwyd y band am gyfnod i chwarae mewn gŵyliau cerddorol.

Aelodau

golygu
  • Hugh Hughes - llais, gitar fas (bu farw 1985)
  • Phil Bradley - llais, gitar
  • Dave Baynton-Power - drymiau
  • Chris Thompson - feiolin
  • Steve Hywyn Jones - llais, gitar fas
  • Peter (Chip) Bonham - allweddau

Disgyddiaeth

golygu
  • Syched, EP caset (1983, Stiwdio'r Fferylldy, Ffer:001)
  • "Lleisiau Mewn Anialwch / Draws Donnau", 7" feinyl (1984, Recordiau Sain, SAIN 110S)
  • Dal I Freuddwydio, Sengl 12" feinyl (1986, Recordiau Sain, SAIN 128EE)
  • Cymynrodd, Albwm 12" feinyl (1986, Recordiau Sain, SAIN SPD 991)
  • Fel Y Mae, Albwm caset (1992, Recordiau Crai C033A)

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Link2Wales - North Wales: Bl – By. Link2Wales. Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.
  2.  The Modernaires. Babylon Wales (30 Awst 2013).

Dolenni allanol

golygu
Fideos YouTube