Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542

Roedd Deddfau "Uno" 1536 a 1542, sy'n derm camarweiniol,[1] yn ddwy ddeddf a basiwyd yn San Steffan i "gorffori" Cymru'n wleidyddol â theyrnas Lloegr yngyd â'i "huno a'i chysylltu" â hi, ac i ddileu'r iaith Gymraeg. Saesneg o hyn ymlaen oedd iaith swyddogol y gyfraith a gweinyddiaeth, a pharhaodd felly hyd at ddiwedd y 1960au. Defnyddiwyd y term 'Deddfau Uno' gan y barnwr Syr John Alun Pugh, mewn darlith a draddodwyd yn ystod Ysgol Haf Plaid Genedlaethol Cymru 1936,[2] ond mae Owen M. Edwards yn cyfeirio at '"The Act of Union" of 1535' yn ei gyfrol Wales yn 1901 (t. xviii).

Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542
Enghraifft o'r canlynoldeddf Llywodraeth Lloegr Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1536 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Oherwydd cweryl Harri VIII gyda'r Pab, yr oedd yn ofni y byddai gwrthryfel yn dod o Ffrainc drwy Iwerddon ac yna Cymru, ac felly fe benderfynnodd y byddai rhaid uno Cymru â Lloegr. Cyfyngwyd ar ryddfreintiau yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr a Calais. Mae hefyd yn debygol fod elw ariannol wrth wraidd y penderfyniadau hyn.

Roedd hefyd yn gweld yr iaith Gymraeg yn fygythiad, ac er fod 95% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg yn unig, gwaharddwyd y Gymraeg o'r llysoedd a'i hamddifadu o statws swyddogol gan y ddeddf.

Dienyddiwyd Rhys ap Gruffudd, sef ŵyr Rhys ap Thomas (1449–1525) yn 1531 gan adael chwerwder tuag at y Cymry. Fe'i cyhuddwyd ar gam o frad yn erbyn Harri ac fe'i dienyddiwyd fel rebel. Hyd hynny roedd Cyngor Cymru a'r Gororau wedi llwyddo i gadw rhywfaint o drefn drwy ddulliau mwy traddodiadol, dan arweiniad yr Rowland Lee.

Eu heffaith golygu

Ymgais oedd Deddf 1536 i gysoni'r system gyfreithiol yn y ddwy wlad, drwy sefydlu egwyddorion "ar gyfer gweinyddu cyfraith a chyfiawnder yng Nghymru yn yr un modd ag a wneir yn y deyrnas hon". Roedd yr ail ddeddf yn ddatblygiad o hyn a thrwy hynny daeth perthynas wleidyddol, gweinyddol a chyfreithiol y ddwy wlad yn nes.

Creodd Deddf 1536 bump o siroedd newydd: Sir Drefaldwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy yn ychwanegol at y chwe sir oedd eisoes yn ffurfio 'tywysogaeth' Cymru: Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd, Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Sir Gaernarfon a Sir y Fflint a'r siroedd 'palatin' (neu'r 'Arglwyddiaethau') Penfro a Morgannwg a oedd eisoes yn rhan o'r Mers. Gwnaeth Deddf 1536 y Cymry'n ddinasyddion cydradd a'r Saeson. Mae hyn yn un o'r rhesymau pam y bu i Gymry dylanwadol yr oes groesawu'r Deddfau hyn. Yr hyn a wnaeth tad Harri, sef Harri Tudur oedd gwobrwyo rhai Cymry gan roi statws dinesydd cyflawn iddynt. Wedi'r ddeddf hon, nid oedd angen hynny, gan fod pob un yn ddinesydd cyfartal. Er bod Cyfraith Gyffredin Lloegr yn araf, dros ddwy ganrif, wedi disodli Cyfraith Hywel, hi, bellach, oedd cyfraith swyddogol Cymru.

Aelodau seneddol golygu

Cyhoeddodd y Ddeddf y byddai un aelod seneddol yn cael ei benodi ym mhob sir yng Nghymru, gyda dau ym Mynwy. Rhoddwyd cynrychiolaeth seneddol i bob tref oddigerth i Harlech a ystyriwyd yn rhy dlawd i gynnal aelod! Roedd disgwyl i'r bwrdeistrefi hyn gynnal yr aelod seneddol yn ariannol. Rhoed yr hawl i bob dyn rhydd a oedd ag eiddo gwerth 40 swllt y flwyddyn bleidleisio; yn y bwrdeidrefi, roedd pleidlais gan bob rhyddfreiniwr. Creodd Deddf 1543 ynadon heddwch yng Nghymru gan ddod ag awdurdod cyfreithiol arglwyddi'r Mers i ben. Ac o gofio cysylltiad Harri Tudur (a'i ewyrth Siasbar) gyda Hwlffordd, rhoddwyd statws sir i'r dref. Roedd nifer yr aelodau seneddol o Gymru, felly, yn 27.

Nid etholwyd yr aelodau seneddol cyntaf Cymru tan 1542.

Y llys chwarter golygu

Sefydlwyd llys chwarter ym mhob sir gydag wyth ynad heddwch ym mhob llys. Newidiwyd rol Cyngor y Gororau i arolygu gwaith cyfreithiol yng Nghymru.

Llysoedd y Sesiwn Fawr golygu

Trefnwyd deuddeg sir, drwy Deddf 1543, yn bedair cylchdaith; cysylltwyd Mynwy, fodd bynnag, gyda chylchdaith Rhydychen. Achosodd hyn gryn gamddealltwriaeth yn ddiweddarach ynghylch perthynas y sir â Chymru (gelwid hi ar adegau yn Wales and Monmouthshire).

Rhaglith Deddf 1536 golygu

"The people of the same dominion have and do daily use a speche nothing like ne (nor) consonaunt to the naturall mother tonge used within this Realme", ac felly rhaid oedd "utterly to etirpe alle and singular the sinister usages and customs differing from the same... to an amiable concord and unity", ac felly "From henceforth no person or persons that use the Welsh speech or language shall have or enjoy any office or fees.... unless he or they use and excercis the speech or language of English".

Llyfryddiaeth golygu

  • G.H. Jenkins, Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
  • W. Ogwen Williams, Tudor Gwynedd (Caernarvonshire Historical Society, 1958), pennod ar y deddfau
  • W. Ogwen Williams, "The Survival of the Welsh Language after the Union of England and Wales: the first phase, 1536-1642", Cylchgrawn Hanes Cymru 2:1 (1964)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008), t.284
  2. Y Ddeddf Uno, 1536: Y Cefndir a'r Canlyniadau, gol. W. Ambrose Bebb (Caernarfon: Plaid Genedlaethol Cymru, 1937), t.35