Y pâs

(Ailgyfeiriad o Y Pas)

Clefyd a achosir gan facteriwm heintus iawn yw'r pâs.[1] I gychwyn, mae'r symptomau'n debyg iawn i annwyd, gyda'r trwyn yn rhedeg, y tymheredd yn codi a pheswch ysgafn. Yn lle gwella, mae peswch cas yn datblygu sydd yn ysgwyd y corff  ac yn parhau am wythnosau. Yn dilyn pesychiad hir, yn amal fe glywir  swn uchel wrth i'r claf o'r diwedd tynnu anadl, sy'n rhoi yr enw Saesneg i'r afiechyd, sef whooping cough. Fe all barhau am ddeg wythnos[2] Ar ôl y peswch caled, mae'r claf  yn teimlo'n wan a llesg, weithiau'n chwydu, ac fe all dorri  asenau hyd yn oed.[3] Mewn plant o dan flwydd oed mae'r peswch weithiau ddim i'w glywed ond  mae cyfnodau o beidio anadlu'n datblygu.[4] Mae'r salwch yn amlygu ei hunan saith i ddeg diwrnod wedi'r heintiad. Er nad yw 'r brechiad yn amddiffyn yn llwyr pob tro, mae'r symptomau yn ysgafnach wedi ei gael.

Y pâs
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcommensal bacterial infectious disease, Bordetella infections Edit this on Wikidata
Lladdwyd58,700 Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
AchosBordetella pertussis edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enw'r bacteriwm sy'n achosi'r pâs yw Bordetella pertussis Mae'n lledu drwy'r awyr wrth i'r claf beswch.[5][6] Mae'r claf yn gallu trosglwyddo'r haint hyd at tair wythnos i fis wedi dechrau'r symptomau. O ddefnyddio gwrthfiotig dyw'r claf ddim yn heintus ar ôl 5 niwrnod.[7] Fe wneir  diagnosis labordy gan ddefnyddio sampl o gefn y llwnc a'r trwyn. Weithiau tyfir y bacteriwm o'r sampl a weithiau defnyddir adwaith cadwynol polymeras (Polymerase chain reaction).[8]

Brechiad yw'r arf orau i amddiffyn pobol rhag y pâs.[9] Fe ddechreuir y broses pan mae'r plentyn rhwng chwech ac wyth wythnos oed, ac fe gwblheir drwy roi pedwar dos cyn cyrraedd dwy flwydd oed.[10] Wrth i effaith y brechiad wanhau dros amser fe argymhellir rhoi ambell ddos arall i blant  hŷn ac oedolion.[11] Weithiau defnyddir gwrthfiotig i geisio amddiffyn rhai bregus sydd yn agored i ddal yr haint.[12] Mae gwrthfiotigau o fudd i'r claf yn y tair wythnos cyntaf o'r afiechyd; fel arall nid ydynt o fawr werth.  Serch hynny, maent yn cael eu defnyddio hyd at chwech wythnos wedi dechreu'r symptomau mewn plant o dan flwydd oed a mewn merched beichiog. Y gwrhfiotegau a ddefnyddir fel rheol yw erythromycin, azithromycin. clarithromycin neu trimethoprim/sulfamethoxazole. Gwan yw'r dystiolaeth am werth unrhyw ymyrraeth arall.[13] Bydd angen triniaeth ysbyty ar nifer o blant o dan flwydd oed.

 Amcangyfrir bod 16.3 miliwn o bobl ar draws y byd wefi eu heintio gan y pâs yn 2015. Mae'r rhan fwyaf yn digwydd ymhlith  y tlodion o bob oed mewn gwledydd difreintiedig. Yn 2015 bu farw 58,700 o'r clefyd, sydd yn ostyngiad sylweddol o'r 138,000 a fu yn 1990.[14] Mae  bron 0.5% o blant o dan flwydd oed yn marw. Mae'r cofnodion cynharaf o'r clefyd yn digwydd yn y 16g. Darganfyddwyd y bacteriwm ym 1904.  Mae'r brechiad wedi bod ar gael oddi ar y 1940au.

Cyfeiriadau golygu

  1. Carbonetti NH (Mehefin 2007). "Immunomodulation in the pathogenesis of Bordetella pertussis infection and disease". Curr Opin Pharmacol 7 (3): 272–8. doi:10.1016/j.coph.2006.12.004. PMID 17418639.
  2. "Pertussis (Whooping Cough) Fast Facts". cdc.gov. February 13, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2015. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Pertussis (Whooping Cough) Complications". cdc.gov. 28 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror 2015. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Pertussis (Whooping Cough) Signs & Symptoms". 22 Mai 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2015. Cyrchwyd 12 February 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Pertussis (Whooping Cough) Causes & Transmission". cdc.gov. September 4, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2015. Cyrchwyd 12 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Pertussis". WHO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2015. Cyrchwyd 23 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Pertussis (Whooping Cough) Treatment". cdc.gov. 28 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Chwefror 2015. Cyrchwyd 13 February 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Pertussis (Whooping Cough) Specimen Collection". cdc.gov. 28 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Chwefror 2015. Cyrchwyd 13 Chwefror 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. Heininger U (February 2010). "Update on pertussis in children". Expert Rev Anti-infect Ther 8 (2): 163–73. doi:10.1586/eri.09.124. PMID 20109046.
  10. "Revised guidance on the choice of pertussis vaccines: July 2014.". Wkly Epidemiol Rec 89 (30): 337–40. Jul 2014. PMID 25072068. http://www.who.int/wer/2013/wer8930.pdf?ua=1.
  11. "Pertussis vaccines: WHO position paper.". Wkly Epidemiol Rec 85 (40): 385–400. 1 Hydref 2010. PMID 20939150.
  12. "Pertussis (Whooping Cough) Prevention". cdc.gov. 10 Hydref 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 February 2015. Cyrchwyd 13 February 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. Wang, K; Bettiol, S; Thompson, MJ; Roberts, NW; Perera, R; Heneghan, CJ; Harnden, A (22 Medi 2014). "Symptomatic treatment of the cough in whooping cough.". Cochrane Database of Systematic Reviews 9: CD003257. doi:10.1002/14651858.CD003257.pub5. PMID 25243777.
  14. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 Rhagfyr 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990-2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.