Tittibhasana (Y Pry Tân)

asama mewn ioga
(Ailgyfeiriad o Y Pry Tân)

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Tittibhasana (Sansgrit: टिट्टिभासन Ṭiṭṭibhāsana) neu (y Pry Tân). Asana cydbwyso ydyw, gyda holl bwysau'r corff ar y breichiau, y garddyrnau a'r dwylo. Fe'i defnyddir mewn ymarferiadau ioga hatha ac ioga modern fel ymarfer corff.[1]

Tittibhasana
Amrywiad

Geirdarddiad golygu

Daw enw'r ystum hwn o Sansgrit: Ṭiṭṭibha, "pryfetach bach, pryf tân", ac āsana, "osgo'r corff" neu "siap".[2]

Ceir geirdardd amgen mewn stori pâr o adar Tittibha oedd yn nythu ger y môr; ysgubodd y cefnfor eu hwyau, a chwynodd yr adar wrth Vishnu, gan ofyn am i'r wyau gael eu dychwelyd. Rhoddodd y duw y gorchymyn, a rhoddodd y môr yr wyau yn ôl. Dywedir bod effeithiolrwydd yr adar gwan bach yn cael ei ddefnyddio fel symbol o ioga, yn gallu goresgyn pŵer y byd.[3]

Disgrifir a darlunnir yr asana yma yn nhestun y Sritattvanidhi yn y 19g fel Mālāsana. Ond mae'r enw hwn yn cael ei roi i asana tra gwahanol yn Light on Yoga.[4]

Disgrifiad golygu

Disgrifir Tittibhasana yn Light on Yoga fel asana sy'n dilyn yr Yoganidrasana (Iogi'n Cysgu), ystum eistedd anodd gyda'r coesau wedi'u croesi y tu ôl i'r pen, sydd yng ngeiriau BKS Iyengar "yn gofyn am gryn ymarfer", trwy ddadgroesi'r fferau, ymestyn y coesau yn syth i fyny, a gwthio i lawr ar y dwylo i gydbwyso.[5]

Dywedir bod yr ystum yn hybuu'r chakra manipura yn y plecsws solar.[6]

Gweler hefyd golygu

  • Bhujapidasana, ystum cydbwyso arall gyda'r coesau o flaen y corff

Llyfryddiaeth golygu

  • Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
  • Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. ISBN 81-7017-389-2.

Cyfeiriadau golygu

  1. Sell, Christina. "A Challenging Balance Pose: Tittibhasana (Firefly Pose)". Yoga International. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
  2. "Firefly Pose - Tittibhasana - Yoga Pose". 28 Awst 2007.
  3. "Tittibhasana [A]". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-18. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
  4. Sjoman 1999, t. 72.
  5. Iyengar 1979.
  6. "Tittibhasana". Yogapedia. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.