Y ffin rhwng Moldofa ac Wcráin

Mae'r ffin rhwng Moldofa ac Wcráin yn rhedeg 1,222 km (759 mi)—267 km (166 mi) ar hyd afonydd a 955 km (593 mi) ar y tir—o'r fan driphlyg ogleddol â Rwmania i'r fan driphlyg ddeheuol â Rwmania. Mae'n cysylltu â naill ochr y ffin rhwng Rwmania ac Wcráin, ac yn cyfateb i oror dwyreiniol Moldofa; mae'r wlad honno yn rhannu ei ffin orllewinol â Rwmania.

Y ffin rhwng Moldofa ac Wcráin
Croesfan Mamalyha yn Oblast Chernivtsi, Wcráin, ger y ffin â Moldofa.
Mathffin, ffin ar dir, ffin rhyngwladol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolborders of Moldova, State Border of Ukraine Edit this on Wikidata
GwladBaner Moldofa Moldofa
Baner Wcráin Wcráin
Cyfesurynnau48.26°N 26.63°E, 45.47°N 28.21°E Edit this on Wikidata
Hyd939 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Yr unedau gweinyddol sydd ar hyd y ffin yw oblastau Chernivtsi a Vinnytsia yng ngorllewin Wcráin ac Oblast Odesa yn ne Wcráin, a dosbarthau Briceni, Ocnița, Dondușeni, Soroca, a Florești yng ngogledd Moldofa, dosbarthau Șoldănești, Rezina, Orhei, Dubăsari, Criuleni, ac Anenii Noi yng nghanolbarth Moldofa, a dosbarthau Căușeni, Ștefan Vodă, Cimișlia, Basarabeasca, Taraclia, a Cahul a thiriogaeth Gagauzia yn ne Moldofa.

Mae 454 km (282 mi) o'r ffin ryngwladol gydnabyddedig yn cyfateb i'r ffin de facto rhwng Wcráin a Transnistria, gweriniaeth dan feddiannaeth filwrol Ffederasiwn Rwsia sydd yn honni ei bod yn annibynnol ar Foldofa.