Dawns roc a rôl yw'r twist. Roedd yn boblogaidd iawn yn y 1960au o ganlyniad i'r gân "The Twist", a berfformiwyd yn wreiddiol gan Hank Ballard and the Midnighters ym 1959, a boblogeiddwyd gan fersiwn Chubby Checker ym 1960.

Y twist
Dawsio'r twist, Berlin, 17 Mai 1964
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, math o ddawns Edit this on Wikidata
Mathdawns, roc a rôl Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1958 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Symudiadau golygu

I berfformio'r twist, mae'r dawnsiwr yn sefyll gyda'i draed 1–2 droedfedd ar wahân, ond gydag un ohonynt ychydig o flaen y corff er mwyn cael trosoliad gwell. Mae'r dawnsiwr yn dal ei freichiau wrth ei ochr gyda'r penelinoedd wedi'u plygu rhywfaint, ac yn twistio'i wast, gan newid pwysau'r corff o un goes i'r llall a defnyddio'r breichiau i helpu troi. Wrth dwistio mae'r dawnsiwr yn pwyso'i dorso ymlaen ychydig pan fo pwysau ar y goes flaen, ac yn ôl pan fo pwysau ar y goes gefn. Wrth i'r ddawns fynd ymlaen yn aml bydd y dawnsiwr yn cyrcydu i'r llawr wrth dwistio ac yna codi'n ôl i fyny. Gall dawnswyr arddullio'r twist trwy godi un goes ambell waith neu wneud naid fechan.