Ymaddasu i newid hinsawdd

Ymaddasu i newid hinsawdd (climate change adaptation) yw'r broses o ymaddasu ein ffordd o fyw er mwyn ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd.[1] Nod addasu yw lleihau neu osgoi niwed, a manteisio ar gyfleoedd a systemau adnewyddadwy, naturiol, organig.[1] Gall gweithredoedd addasu fod naill ai’n gynyddrannol neu’n drawsnewidiol.[2] Mae'r angen am addasu'n amrywio o le i le, yn dibynnu ar y risg i systemau dynol neu ecolegol.

Ymaddasu i newid hinsawdd
Mathproses, addasu, gwleidyddiaeth newid hinsawdd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gellir grwpio gweithredoedd addasu yn dri chategori:

  1. addasiad strwythurol a ffisegol (gellir grwpio hyn yn beirianneg a'r amgylchedd adeiledig, technolegol, seiliedig ar ecosystemau, gwasanaethau);
  2. Addasiad cymdeithasol (addysgol, gwybodaeth, ymddygiadol); ac
  3. Addasiad sefydliadol (sefydliadau economaidd, cyfreithiau a rheoleiddio, polisïau a rhaglenni'r llywodraethau).[2] : 845 

Mae addasu (neu 'ymaddasu') yn arbennig o bwysig mewn gwledydd sy'n datblygu gan mai'r gwledydd hynny sydd fwyaf agored i effeithiau gwaethaf newid hinsawdd[3] ac sy'n dioddef fwyaf.[4][5] Mae'r gallu yma i addasu wedi'i ddosbarthu'n anwastad ar draws gwahanol ranbarthau a phoblogaethau, ac yn gyffredinol mae gan wledydd sy'n datblygu lai o allu i addasu.[6] Mae cysylltiad agos rhwng gallu ymaddasol a datblygiad cymdeithasol ac economaidd.[7]

Yn gyffredinol, mae lefelau uwch o ddatblygiad yn golygu gallu uwch i addasu , ond mae rhai datblygiadau yn cloi pobl i mewn i batrymau neu ymddygiadau penodol. Ac efallai y bydd gan yr ardaloedd mwyaf datblygedig allu is i ymaddasu i fathau newydd o beryglon naturiol, nad ydynt wedi'u profi o'r blaen, o'i gymharu â pheryglon naturiol mwy cyfarwydd. Mae costau economaidd ymaddasu i newid hinsawdd yn debyg o gostio biliynau o ddoleri bob blwyddyn am y degawdau nesaf.

Diffiniad golygu

Diffinnir addasu i newid hinsawdd fel:

  • "I bobl: fel y broses o addasu i hinsawdd gwirioneddol neu ddisgwyliedig a'i effeithiau er mwyn cymedroli niwed neu fanteisio ar gyfleoedd."[8]
  • "Mewn systemau naturiol: addasu yw'r broses o addasu i'r hinsawdd wirioneddol a'i effeithiau; gall ymyrraeth ddynol hwyluso hyn."[8]

Gweithgareddau cysylltiedig golygu

Gan fod newid hinsawdd yn cyfrannu at y risg o drychinebau, mae addasu i newid hinsawdd yn cael ei weld weithiau fel un o lawer o brosesau sy'n lleihau'r risg o drychinebau.[9] Yn ei dro, dylai lleihau'r risg o drychinebau fod yn rhan o ddatblygu cynaliadwy er mwyn osgoi ynysu oddi wrth bynciau ehangach na'r risg o drychinebau.

Lliniaru newid hinsawdd golygu

Mae llawer o gyrff arbenigol yn cytuno, er bod lliniaru newid hinsawdd (climate change mitigation) yn bwysig, y bydd angen addasu i effeithiau cynhesu byd-eang o hyd. Mae'r cyrff arbenigol hyn yn cynnwys er enghraifft Gweithgor II IPCC ("Effaith, Ymaddasu a Bregusrwydd,")[10] Academi Gwyddorau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau,[11] Swyddfa Lleihau Risg Trychinebau y Cenhedloedd Unedig,[12] ac arbenigwyr polisiau gwyddonol eraill.[13]

Ceir tir cyffredin rhwng ymaddasu a lliniaru, ond gallant hefyd fod yn gweithio yn erbyn ei gilydd. Mae mesurau ymaddasu yn aml yn cynnig buddion tymor byr, tra bod gan liniaru fanteision tymor hwy. [14] Weithiau gall gweithredoedd sy'n berthnasol i'r hinsawdd bwyntio i gyfeiriadau gwahanol. Er enghraifft, gall datblygiad trefol cryno arwain at lai o drafnidiaeth ac adeiladu allyriadau nwyon tŷ gwydr . Ar y llaw arall, gall gynyddu effaith ynys gwres trefol, gan arwain at dymheredd uwch a chynyddu amlygiad, gan wneud addasu yn fwy heriol. [15]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 IPCC, 2022: Annex II: Glossary [Möller, V., R. van Diemen, J.B.R. Matthews, C. Méndez, S. Semenov, J.S. Fuglestvedt, A. Reisinger (eds.)]. In: Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, M. Tignor, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem, B. Rama (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, UK and New York, NY, USA, pp. 2897–2930, doi:10.1017/9781009325844.029.
  2. 2.0 2.1 Noble, I.R., S. Huq, Y.A. Anokhin, J. Carmin, D. Goudou, F.P. Lansigan, B. Osman-Elasha, and A. Villamizar, 2014: Chapter 14: Adaptation needs and options. In: Climate Change 2014: Impacts, Adaptation, and Vulnerability. Part A: Global and Sectoral Aspects. Contribution of Working Group II to the Fifth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [Field, C.B., V.R. Barros, D.J. Dokken, K.J. Mach, M.D. Mastrandrea, T.E. Bilir, M. Chatterjee, K.L. Ebi, Y.O. Estrada, R.C. Genova, B. Girma, E.S. Kissel, A.N. Levy, S. MacCracken, P.R. Mastrandrea, and L.L.White (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA, pp. 833-868.
  3. Nations, United. "The Health Effects Of Global Warming: Developing Countries Are The Most Vulnerable". United Nations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-24.
  4. "Unprecedented Impacts of Climate Change Disproportionately Burdening Developing Countries, Delegate Stresses, as Second Committee Concludes General Debate | Meetings Coverage and Press Releases". www.un.org. Cyrchwyd 2019-12-12.
  5. Sarkodie, Samuel Asumadu; Ahmed, Maruf Yakubu; Owusu, Phebe Asantewaa (2022-04-05). "Global adaptation readiness and income mitigate sectoral climate change vulnerabilities" (yn en). Humanities and Social Sciences Communications 9 (1): 1–17. doi:10.1057/s41599-022-01130-7. ISSN 2662-9992. https://www.nature.com/articles/s41599-022-01130-7.
  6. Executive summary. In (book chapter): Chapter 19: Assessing Key Vulnerabilities and the Risk from Climate Change. In: Climate Change 2007: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change (M.L. Parry, O.F. Canziani, J.P. Palutikof, P.J. van der Linden and C.E. Hanson, Eds.). Print version: Cambridge University Press, Cambridge, UK. This version: IPCC website. 2007. ISBN 978-0-521-88010-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-02. Cyrchwyd 6 April 2010.
  7. IPCC (2007). 4. Adaptation and mitigation options. In (book section): Summary for Policymakers. In: Climate Change 2007: Synthesis Report. Contribution of Working Groups I, II and III to the Fourth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change (Core Writing Team, Pachauri, R.K and Reisinger, A. (eds.)). Print version: IPCC, Geneva, Switzerland. This version: IPCC website. ISBN 978-92-9169-122-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-01. Cyrchwyd 26 April 2010.
  8. 8.0 8.1 IPCC, 2022: Summary for Policymakers [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, M. Tignor, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem (eds.)]. In: Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, M. Tignor, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem, B. Rama (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, UK and New York, NY, USA, pp. 3–33, doi:10.1017/9781009325844.001.
  9. Kelman, Ilan; Gaillard, J C; Mercer, Jessica (March 2015). "Climate Change’s Role in Disaster Risk Reduction’s Future: Beyond Vulnerability and Resilience" (yn en). International Journal of Disaster Risk Science 6 (1): 21–27. doi:10.1007/s13753-015-0038-5. ISSN 2095-0055. http://link.springer.com/10.1007/s13753-015-0038-5.
  10. "IPCC Working Group II". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 December 2018. Cyrchwyd August 26, 2021.
  11. Institute of Medicine, National Academy of Sciences, and National Academy of Engineering (1992). Policy Implications of Greenhouse Warming: Mitigation, Adaptation, and the Science Base. National Academies Press. t. 944. ISBN 978-0-309-04386-1. Cyrchwyd 14 April 2007.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  12. "Themes and Issues in Disaster Risk Reduction" (PDF). UNISDR. Cyrchwyd 2 August 2012.
  13. "Adaptation To Global Climate Change Is An Essential Response To A Warming Planet". 8 February 2007. Cyrchwyd 6 January 2010.
  14. Berry, Pam M.; Brown, Sally; Chen, Minpeng; Kontogianni, Areti; Rowlands, Olwen; Simpson, Gillian; Skourtos, Michalis (2015-02-01). "Cross-sectoral interactions of adaptation and mitigation measures" (yn en). Climatic Change 128 (3): 381–393. Bibcode 2015ClCh..128..381B. doi:10.1007/s10584-014-1214-0. ISSN 1573-1480. https://doi.org/10.1007/s10584-014-1214-0.
  15. Sharifi, Ayyoob (2020-12-10). "Trade-offs and conflicts between urban climate change mitigation and adaptation measures: A literature review" (yn en). Journal of Cleaner Production 276: 122813. doi:10.1016/j.jclepro.2020.122813. ISSN 0959-6526. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0959652620328584.