Ymarfer tynnu i fyny
Ymarfer y corff uchaf lle mae'r corff cyfan yn hongian o'r breichiau cyn cael ei dynnu i fyny gan ddefnyddio cryfder y cyhyrau ydy ymarfer tynnu i fyny. Wrth i hyn ddigwydd, mae'r arddyrnau'n aros yn niwtral (yn syth a heb eu plygu), tra bod y penelinoedd yn plygu a'r ysgwyddau'n ymestyn fel bod y penelinoedd wrth neu weithiau tu ôl y torso.
Mae'r ymarfer tynnu i fyny traddodiadol yn dibynnu ar gryfder rhan uchaf y corff ac ni ddylid siglo yn ôl ac ymlaen[1] (gan ddefnyddio grym cychwynnol y coesau er mwyn creu momentwm). Yn aml mae'r ymarfer hwn yn targedu'r cyhyr y latissimus dorsi yn y cefn ynghyd â nifer o gyhyrau cynorthwyol eraill.
Rhai amrywiadau
golyguEnghraifft | Math |
---|---|
Cyffredin Gyda'r ymarfer tynnu i fyny safonol, gafaelir yn y bar gyda gafael troslaw/tanlaw/amryw-law. Yna tynnir y corff i fyny tan bod yr ên yn uwch na'r bar. Gorffennir yr ymarfer trwy ostwng y corff nes bod y breichiau a'r ysgwyddau wedi'u hymestyn yn llawn. | |
Pwysol Ychwanegir pwysau gan ddefnyddio gwregys dipio, neu drwy afael mewn dymbel gan ddefnyddio'r traed neu fest/siorts bwysau. | |
Ymarfer tynnu i fyny tu ôl y gwddf Gollyngir yr ên. Nod yr ymarfer yw i gyffwrdd â'r bar gyda chefn y gwddf. | |
Un llaw Gwneir ymarfer tynnu i fyny unllaw drwy afael yn y bar gan ddefnyddio un llaw yn unig ac yna tynnu i fyny. Mae hyn yn anodd oherwydd y cryfder sylweddol sydd ei angen. | |
Muscle-up Gwneir yr ymarfer cyhyr-i-fyny drwy dynnu am i fyny, ond yn hytrach na stopio pan fo'r ên neu'r frest yn cyffwrdd â'r bar, sythir y breichiau, gan godi'r corff uwchben y bar. Yn gyffredinol mae'r tynnu i fyny cychwynnol yn defnyddio gafael troslaw er mwyn ei gwneud y newid yn haws ac mae'n fwy ffrwydrol er mwyn cymryd mantais o'r momentwmo hanner cyntaf yr ymarfer er mwyn helpu'r ail hanner. | |
Weithiau gelwir hwn yn yr "ymarfer tynnu i fyny Awstralaidd". Fe'i gwneir gyda'r bar 2 i 3 troedfedd oddi ar y llawr. Mae'r defnyddiwr yn gorwedd o dan y bar, yn wynebu am i fyny ac yn gafael yn y bar gyda breichiau wedi'u hymestyn. Perfformir yr ymarfer drwy dynnu'r frest i fyny tua'r bar. Rhaid dal y corff mewn safle planc anhyblyg tra bod y sodlau'n aros ar y llawr. | |
Gafael gymysg Rhoddir un llaw yn y safle troslaw a'r llall yn y safle tanlaw er mwyn amrywio'r rhan o'r penelin a ddefnyddir. |