Ymerodraeth Seleucaidd
(Ailgyfeiriad o Ymerodraeth y Seleuciaid)
Yr Ymerodraeth Seleucaidd oedd y deyrnas Helenistaidd a sefydlwyd yn y Dwyrain Canol yn dilyn marwolaeth Alecsander Fawr, ac a barhaodd o 311 hyd 63 CC.
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg |
---|---|
Daeth i ben | 63 CC |
Poblogaeth | 35,000,000 |
Crefydd | Crefydd groeg yr henfyd |
Dechrau/Sefydlu | 312 CC |
Olynydd | Parthia |
Gwladwriaeth | Ymerodraeth Seleucaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y deyrnas gan un o gadfridogion Alecsander, Seleucus I Nicator, Groeg: Σέλευκος Νικάτωρ (Nicator, "y Buddugol"). Wedi marwolaeth Alecsander daeth i reoli ardal eang oedd yn ymestyn hyd at Afon Indus. Tua 305 CC sefydlodd Seleucia ar y Tigris fel prifddinas newydd. Yn ddiweddarach, symudwyd y brifddinas i Antiochia.
Tyfodd y deyrnas yn ysfod teyrnasiad Antiochus Fawr, ond erbyn yr ail ganrif CC roedd yn dechrau dadfeilio. Cipiwyd llawer o'i thiriogaethau dwyreiniol gan y Parthia, ac yn 64 CC gorchfygodd byddin Gweriniaeth Rhufain dan Gnaeus Pompeius Magnus y gweddill.
Teyrnoedd Seleucaidd
golygu- Seleucus I Nicator (Satrap 311 - 305 CC , Brenin 305 CC - 280 CC)
- Antiochus I Soter (cyd-frenin ers 291, brenin 280 - 261 CC)
- Antiochus II Theos (261 - 246 CC)
- Seleucus II Callinicus ( 246 - 225 CC)
- Seleucus III Ceraunus (neu Soter) ( 225 - 223 CC)
- Antiochus III Mawr (223 - 187 CC)
- Seleucus IV Philopator (187 - 175 CC)
- Antiochus IV Epiphanes (175 - 164 CC)
- Antiochus V Eupator (164 - 162 CC)
- Demetrius I Soter (162 - 150 CC)
- Alexander I Balas (154 - 145 CC)
- Demetrius II Nicator (145 - 138 CC)
- Antiochus VI Dionysus (neu Epiphanes) (145 - 140 CC?)
- Diodotus Tryphon (140? - 138 CC)
- Antiochus VII Euergetes Sidetes ( 138 - 129 CC)
- Demetrius II Nicator (eto 129 - 126 CC)
- Alexander II Zabinas (129 - 123 CC)
- Cleopatra Thea (126 - 123 CC)
- Seleucus V Philometor(126/125 CC)
- Antiochus VIII Grypus (125 - 96 CC)
- Antiochus IX Cyzicenus (114 - 96 CC)
- Seleucus VI Epiphanes Nicator (96 - 95 CC)
- Antiochus X Eusebes Philopator (95 - 92 CC neu 83 CC)
- Demetrius III Eucaerus (neu Philopator) (95-87 CC)
- Antiochus XI Ephiphanes Philadelphus (95 - 92 CC)
- Philippus I Philadelphus (95 - 84/83 CC)
- Antiochus XII Dionysus (87 - 84 CC)
- (Tigranes Fawr, brenin Armenia) (83 - 69 CC)
- Seleucus VII Kybiosaktes neu Philometor (70au CC - 60au CC?)
- Antiochus XIII Asiaticus (69 - 64 CC)
- Philippus II Philoromaeus (65 - 63 CC)