Ymosodiad Tết
Ymgyrch filwrol ymosodol gan luoedd comiwnyddol Byddin Gogledd Fietnam a'r Vietcong yn erbyn De Fietnam a'r Unol Daleithiau oedd Ymosodiad Tết a ddechreuodd ar 31 Ionawr 1968, gŵyl Tết Nguyên Đán, yn ystod Rhyfel Fietnam. Datganodd Gogledd a De Fietnam y byddent yn rhoi'r gorau i'r brwydro am ddeuddydd yn ystod yr ŵyl. Ar fore 31 Ionawr lansiodd y Vietcong gyfres o gyrchoedd yn Ne Fietnam, ac ymgyrch ehangach ar 1 Chwefror oedd yn targedu mwy na 100 o drefi a dinasoedd yn y De. Roedd yr Ymosodiad yn annisgwyl o safbwynt llywodraeth y De a'r Unol Daleithiau.
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol |
---|---|
Rhan o | Rhyfel Fietnam |
Dechreuwyd | 30 Ionawr 1968 |
Daeth i ben | 23 Medi 1968 |
Lleoliad | De Fietnam |
Enw brodorol | Sự kiện Tết Mậu Thân 1968 |
Gwladwriaeth | Fietnam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er fod lluoedd De Fietnam a'r Unol Daleithiau yn fuddugol yn dactegol, roedd eu methiant i ragweld yr Ymosodiad yn fuddugoliaeth wleidyddol i'r comiwnyddion. Ystyrid Ymosodiad Tet yn drobwynt yn Rhyfel Fietnam, a roddir pwyslais ar rôl cyfryngau'r Unol Daleithiau wrth sylwebu i'r cyhoedd Americanaidd a newid barn Americanwyr am ymyrraeth eu lluoedd milwrol yn y rhyfel.