Ymyriant
Mewn ffiseg, mae ymyriant yn golygu arosodiad dwy neu fwy o donnau sy'n rhoi ton efo patrwm newydd. Gall dwy don fodoli yn yr un lle ar yr un pryd ac felly naill ai cynyddu cryfder y don neu leihau cryfder y don.
Enghraifft o'r canlynol | ffenomen |
---|---|
Math | deddf ffiseg |
Rhan o | ffiseg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymyriant dinistriol ac adeiladol
golyguPan arosodith dwy don neu fwy mewn gwedd fe grëir ymyriant adeiladol ac mae'r osgled yn cynyddu. Pan arosodir dwy don neu fwy allan o wedd fe fydd yna ymyriant dinistriol oherwydd mae'r osgledau a chafnau yn dirymu'r don.
Canlyniad yr arosodiad |
||
Ton 1 | ||
Ton 2 | ||
Dwy don gydwedd | Dwy don 180° anghydwedd |
Pan mae dwy don yn cael ei arosod yn anghydwedd, mae'r gwahaniaeth gwedd yn π (3.14..)