Ynys yn nhalaith Tocantins, Brasil, yw Ynys Bananal, hefyd Ynys Bookash. Fe'i ffurfir gan afonydd Araguaia a Javaés. Gydag arwynebedd o tua ugain mil km², hi yw ynys afon fwyaf y byd.

Ynys Bananal
Mathynys mewn afon, ynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTocantins Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd19,162 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr189 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Araguaia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.33°S 50.42°W, 11.3561°S 50.2356°W Edit this on Wikidata
Hyd350 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

Saif yn agos i'r ffîn a thaleithiau Goiás, Mato Grosso a Pará. Yng ngogledd yr ynys, ceir Parc Cenedlaethol Araguaia, ac yn y de warchodfeydd brodorol (terra indígena) Carajás a Javaés. Cyrhaeddodd yr Ewropeaud cyntaf, dan José Pinto Fonseca, yma yn 1773, a rhoi'r enw Santana ar yr ynys. Ceir tua pymtheg pentref brodorol ar yr ynys.